ColegauCymru a newid hinsawdd: symud tuag at leihau ein hôl troed carbon

pexels-anete-lusina-4792509.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o fod yn cymryd camau cadarnhaol tuag at leihau ôl troed carbon y sefydliad. 
  
Yn ystod hydref 2021 bu Nigel Williams, myfyriwr MBA o Brifysgol Caerdydd, yn cynnal astudiaeth i ymddygiad y sefydliad cyn, yn ystod ac ar ôl Pandemig Covid, gyda’r nod o argymell ffyrdd o leihau ein hôl troed carbon. 
  
Cafodd Nigel y dasg o sefydlu cyfranwyr carbon allweddol yn y sefydliad a’u harwyddocâd, ac yna gwneud cyfres o argymhellion. Roedd y dull o gasglu data ar gyfer yr astudiaeth yn cynnwys taith o gwmpas y swyddfa, astudiaeth defnydd trydan, a holiadur staff. 
  
Dywedodd Nigel,

“Yng nghyd-destun y Pandemig, nid oedd y data yn syndod. Roedd dros hanner ôl troed carbon y sefydliad yn 2019 oherwydd teithio mewn car, gyda 25% yn drydan. Yn 2020, gostyngodd teithiau car i 40%, gyda thrydan yn codi i dros 50%. Mewn cyferbyniad llwyr, roedd y defnydd o drydan yn 95% o ôl troed carbon y sefydliad yn 2021.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn awyddus i ddatblygu agenda werdd y sector addysg bellach a bydd yr astudiaeth hon yn ein helpu i arwain trwy esiampl. Rydym yn rhannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru’r dyfodol sy’n wyrddach, ac sy’n anelu at helpu colegau i gyrraedd sero net. Mae hwn yn gam positif i’r cyfeiriad cywir.”

Argymhellion 
Darparwyd cynllun gweithredu 10 cam yn cynnwys argymhellion a newidiadau ymddygiad gan gynnwys y posibilrwydd o benodi hyrwyddwr carbon, defnyddio cyfrifiannell unigol a thîm, gweithredu polisi teithio angenrheidiol yn unig, archwilio opsiynau i bawb yn ystod y dydd/gweithio gartref, a sefydlu canllawiau ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn erbyn rhithwir. Mae argymhellion pellach yn cynnwys creu ymwybyddiaeth barhaus ac ymgysylltu tîm cyfan yn ogystal ag ailadrodd yr astudiaeth i roi darlun wedi'i ddiweddaru. 
  
Ychwanegodd Mr Davies ymhellach,

“Wrth i ni barhau i lywio ffordd newydd o weithio mewn byd ôl-Covid, rydym yn ddiolchgar i Nigel am y gwaith pwysig hwn a byddwn yn edrych ymlaen yn awr at drafod ei argymhellion a sut y gallwn eu rhoi ar waith.”

Gwybodaeth Bellach 

Carbon Footprint and Reduction Possibilities
Tachwedd 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.