ColegauCymru yn galw am ehangu rhaglen prentisiaethiau iau yng Nghymru

pexels-cottonbro-studio-4065876.jpg

Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu adolygiad Estyn o’r rhaglen prentisiaethau iau yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro ColegauCymru, Kelly Edwards,

 “Rydym yn croesawu’n fawr adroddiad Estyn sy’n amlygu effaith gadarnhaol y rhaglen prentisiaethau iau. Mae'r adroddiad yn dangos y canlyniadau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys cyfraddau llwyddiant uchel iawn mewn cymwysterau galwedigaethol. Yng Nghymru, mae angen inni ddatblygu llwybr dysgu a phontio 14-19 gwell, newydd i gynnwys mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 allu cael mynediad i addysg alwedigaethol yn y coleg.

Mae adroddiad Estyn heddiw yn rhoi tystiolaeth glir o’r angen i ehangu’r rhaglen prentisiaethau iau, er mwyn galluogi mynediad cyfartal i’r cyfleoedd hyn i bob dysgwr yng Nghymru. Dylai ehangu’r rhaglenni gael ei ategu gan hawl i bob dysgwr oedran ysgol glywed yn uniongyrchol gan golegau am yr opsiwn o astudio mewn lleoliadau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi terfyn ar y loteri cod post presennol ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed, a gwneud yn siŵr bod pob person ifanc yn gallu cael mynediad at gymwysterau galwedigaethol o ansawdd uchel.

Gwybodaeth Bellach

Adolygiad Estyn
Adolygiad o’r rhaglen prentisiaethau iau yng Nghymru

Amy Evans, Swyddog Polisi
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.