ColegauCymru yn galw am adolygiad pellach o adroddiad pwysig Estyn

contract.jpeg

Mae ColegauCymru yn galw am weithredu pellach wrth iddo ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw i argymhellion Estyn yn yr adroddiad Addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. 
  
Er ein bod yn croesawu'r canfyddiadau cychwynnol, rydym yn awr yn galw am archwiliad manwl pellach o'r adolygiad pwysig hwn. Bellach, mae angen fersiwn ôl-16 o Adolygiad Furlong (2015), lle gellir gwneud argymhellion clir a diriaethol i gefnogi'r sector. 
  
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru Kelly Edwards,

“Mae'r adroddiad hwn yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir. Dylid cynnal adolygiad pellach mewn modd sy'n annibynnol, ar lefel uchel ac yn awdurdodol ac sy'n cynnig mewnwelediad a gweledigaeth wirioneddol ar gyfer dyfodol hyfforddiant athrawon mewn addysg bellach ac addysg dechnegol." 

Mae ColegauCymru yn parhau i geisio cydraddoldeb ar draws addysg ôl-16, ac i warantu bod pob dysgwr yn derbyn y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo yn eu hastudiaethau, ac i symud ymlaen i gyflogaeth neu astudio ymhellach. Rydym yn parhau i ymrwymo i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gyrraedd ein nodau ar y cyd. 
 
Gwybodaeth Bellach 
 
Llywodraeth Cymru
Addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: Ymateb y Llywodraeth
15 Rhagfyr 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.