ColegauCymru yn llongyfarch Coleg Caerdydd a’r Fro ar ennill gwobr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Celebration.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o longyfarch Coleg Caerdydd a’r Fro ar ennill y wobr ar gyfer Darparwr Addysg Bellach y Flwyddyn yng Ngwobrau National Centre for Diversity #FREDIEAwards 2021! Mae’r gwobrau yma yn dathlu hyrwyddwyr gorau tegwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltu. 

Gosodwyd y Coleg hefyd yn Rhif 2 ar restr y 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol Gorau NCFD, rhestr sy'n croesi pob sector a maint sefydliad gan gynnwys cwmnïau, banciau, colegau a sefydliadau elusennol yn y DU gyfan.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin,

“Rydym yn falch iawn o ennill y wobr bwysig hon ac yn ymfalchïo mewn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy bob agwedd o fywyd coleg. Mae'r cyflawniad hwn yn ein helpu i anfon neges gadarnhaol at staff, dysgwyr, busnes a'r gymuned ehangach o'r hyn y mae'r Coleg yn sefyll amdano a'n hymrwymiad i welliant parhaus." 

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro hefyd wedi'i achredu â Gwobr Arweinwyr mewn Amrywiaeth ac fe'i nodir fel un o'r sefydliadau gorau yn y DU am annog diwylliant hollgynhwysol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dyma'r wobr uchaf a mwyaf mawreddog a gynigir gan y Ganolfan Amrywiaeth Genedlaethol. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Llongyfarchiadau mawr i Goleg Caerdydd a’r Fro ar y cyflawniad sylweddol hwn. Mae’r Coleg wir yn arwain y ffordd wrth hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector addysg bellach yng Nghymru.”

 

Gwybodaeth Bellach 

Enillwyr Gwobrau FREDIE 2021 NCFD
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.