ColegauCymru yn llongyfarch Efa Gruffydd Jones ar ei apwyntiad fel Comisiynydd y Gymraeg

pexels-pixabay-289737.jpg

Mae ColegauCymu wedi llongyfarch Efa Gruffydd Jones ar ei phenodiad yn Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae rôl Comisiynydd y Gymraeg yn hollbwysig, ac yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan golegau addysg bellach Cymru. Mae gwaith diflino ac ymroddgar Aled Roberts, a wnaeth gyfraniad dwys ac angerddol mewn amser byr i’w gymuned, i Gymru a’r Gymraeg, wedi gosod seiliau cadarn i barhau i adeiladu arnynt. Roedd y sector addysg bellach yn gwerthfawrogi’r berthynas oedd gennym gyda Mr Roberts ac fe fu tristwch mawr yn dilyn ei farwolaeth. Edrychwn ymlaen at gydweithio â Ms Gruffudd Jones a’r cyfoeth o brofiad a ddaw i’w rôl newydd wrth i ni geisio parhau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws pob coleg er budd dysgwyr, staff a’n cymunedau.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i weithio gyda'r sector addysg bellach gyda rhwydwaith cynyddol o staff sy’n cefnogi datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws ein colegau. Rydym yn awyddus i gydweithio i sicrhau bod twf parhaus mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - beth bynnag yw eu dewis lwybr gyrfa.

Gyda chefnogaeth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae ColegauCymru wedi cydlynu’r prosiect Cymraeg Gwaith ar gyfer y sector addysg bellach, mewn cydweithrediad gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r prosiect wedi cyrraedd ei nod yn gyson ers cael ei sefydlu yn 2017, gan ddechrau gyda 185 o staff yn cymryd rhan, ac yn parhau i roi cyfle i staff wella sgiliau Cymraeg blwyddyn ar ôl blwyddyn. Ym mis Ebrill 2022, dechreuodd Cymraeg Gwaith ei chweched flwyddyn gyda 485 o ymarferwyr wedi cofrestru i gymryd rhan, cyrhaeddiad gwych.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r sector. Mae rhwydwaith sy'n tyfu o staff dwyieithog sy’n cefnogi datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y colegau ac rydym yn awyddus i gydweithio i sicrhau twf parhaus ac i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg – beth bynnag fo’u dewis llwybr gyrfa.

Dymunwn bob llwyddiant i Ms Gruffudd Jones yn ei rôl newydd.” 

Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at barhau â’r berthynas waith cadarnhaol y mae’r sector addysg bellach wedi’i datblygu gyda swyddfa’r Comisiynydd yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos i sicrhau bod yr iaith yn cael ei hyrwyddo ym mhopeth a wnawn, yn enwedig yn ein hymdrechion i barhau i gefnogi nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Bydd Efa Gruffydd Jones yn dechrau yn ei rôl ar 9 Ionawr 2023.

Gwybodaeth Bellach

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.