Dirprwy Gadeirydd ColegauCymru yn cael ei ddathlu yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines

Students sitting on a college wall.jpg

Yr wythnos hon mae Simon Pirotte, Dirprwy Gadeirydd ColegauCymru a Phennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont, wedi derbyn OBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ar gyfer 2021. Mae’r wobr hon yn cydnabod ei wasanaeth i addysg bellach ac uwch, ac yn adlewyrchu ei waith diflino i sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo.

Ymunodd Simon â bwrdd ColegauCymru yn 2020 yn dilyn 30 mlynedd ym maes addysg, gan roi mewnwelediad gwerthfawr ar addysg bellach ar ôl ennill sawl gwobr a chanmoliaeth sylweddol gan gydweithwyr, cymheiriaid, a chyrff llywodraethu fel ei gilydd.

Yn ei amser fel Pennaeth a Phrif Weithredwr, mae Simon wedi adeiladu amgylchedd gwych yng Ngholeg Penybont, gan helpu’r sefydliad i gyflawni canlyniad ‘Rhagorol’ yn dilyn arolygiad diweddaraf Estyn, hyn yn ogystal â chael ei enwi’n Goleg y Flwyddyn yn y Times Educational Supplement yn 2019.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae’r anrhydedd hon yn amlygu cymeriad Simon, a’i ysgogiad gyson am welliannau a chydnabyddiaeth i addysg bellach yng Nghymru. Anfonwn ein llongyfarchiadau gwresog iddo ar y cyflawniad hwn a’n gwerthfawrogiad o’i waith diflino yn y sector addysg bellach.”

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.