Sialens newydd ar y gorwel i Gyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru

pexels-andrea-piacquadio-3760067.jpg

Mae’n bleser gennym longyfarch ein Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Dr Rachel Bowen, ar ei phenodiad diweddar yn Gyfarwyddwr Polisi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Bydd Rachel yn chwarae rhan ganolog wrth arwain ar feysydd gwaith penodol a sicrhau perthnasoedd gwaith rhagorol a phobl hŷn a rhanddeiliaid eraill. Bydd hi hefyd yn arwain ar faes blaenoriaeth rhoi terfyn ar ragfarn ar sail oed a gwahaniaethu ar sail oedran ac yn helpu i greu gweledigaeth gadarnhaol o gymdeithas sy’n heneiddio.

Dywedodd Rachel,

“Rwyf wedi cael chwe blynedd wych yn ColegauCymru ac wedi mwynhau gweithio’n agos gyda chydweithwyr a’n haelod-golegau fel ei gilydd. Rwyf wedi cael fy nghalonogi o weld proffil cynyddol y sector addysg bellach yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, o ganlyniad uniongyrchol i’n gwaith, ac yn enwedig yng nghyd-destun yr heriau a ddaeth yn sgil y pandemig."

"Rwy’n edrych ymlaen at her newydd ac yn ymuno â Helena Herklots a’i thîm gwych yn Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wrth wybod fy mod yn gadael tîm rhagorol yn ColegauCymru a fydd yn parhau i wneud gwaith o’r radd flaenaf ar ran y sector addysg bellach.”

Ychwanegodd y Prif Weithredwr Dros Dro David Price,

“Ar ran ein haelodau, hoffwn longyfarch Rachel ar y penodiad newydd cyffrous hwn. Rydym yn ddiolchgar am y chwe blynedd o wasanaeth y mae hi wedi’i roi, gan helpu i lunio sector addysg bellach cryfach i Gymru, yn fwyaf nodedig yng nghyd-destun pandemig Covid19.”

Bydd Rachel yn dechrau ar ei rôl newydd ganol mis Medi, gyda chyn-reolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Rachel Cable, yn dechrau yn y swydd ddechrau mis Hydref. Daw Rachel o ystod eang o brofiad yn y trydydd sector ac mae hefyd wedi gweithio fel Cynghorydd Polisi mewn addysg uwch yn ogystal â rheolwr ymgyrchoedd ar gyfer y cyn AS Jenny Willott.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.