Strategaeth Rhyngwladoli i ehangu gorwelion addysgu a dysgu mewn addysg bellach

pexels-natasa-dav-2885919.jpg

Mae ColegauCymru wedi lansio Strategaeth Rhyngwladoli newydd ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru. 

Bydd y Strategaeth yn cefnogi cyfoethogi a gwella profiadau addysgu a dysgu, cynyddu dyheadau dysgwyr ac ehangu eu gorwelion wrth godi proffil y gwaith rhyngwladol a wneir mewn addysg bellach. Bydd hefyd yn ceisio llywio arfer proffesiynol a chryfhau’r ddarpariaeth drwy gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael yn rhyngwladol i rannu arfer gorau, cydweithio â phartneriaid a datblygu gwaith masnachol. 

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, 

“Mae tystiolaeth sylweddol bod cyfnewidiadau rhyngwladol yn dod â buddion i fyfyrwyr a dysgwyr. Mae ein rhaglen Taith yn darparu cyfleoedd rhyngwladol cyffrous i’n colegau, a byddwn yn annog pob dysgwr i archwilio’r teithiau cyfnewid sydd ar gael iddynt.” 

“Mae Strategaeth Rhyngwladoli ColegauCymru yn gam cadarnhaol i helpu i dyfu a chyflawni uchelgeisiau rhyngwladol addysg bellach Cymru ar lwyfan y byd, ac wrth hyrwyddo manteision profiadau tramor i helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion byd-eang hyderus, allblyg.” 

Mae prosiectau consortiwm ColegauCymru ar gyfer symudedd rhyngwladol wedi galluogi dros 3,000 o ddysgwyr a 490 staff i weithio, hyfforddi a gwirfoddoli dramor wrth gael mewnwelediad i wahanol ddiwylliannau ac ieithoedd na fyddent efallai wedi cael y cyfle i'w profi fel arall. 

Ychwanegodd Cadeirydd Grŵp Rhyngwladol Strategol ColegauCymru, Dr Andrew Cornish, 

“Mae’r Strategaeth yn ganlyniad i un o’r argymhellion mewn ymchwil a gomisiynwyd gan ColegauCymru ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynnar yn 2020 o’r enw Rhyngwladoli yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Rydym yn falch bod yr ymchwil hwn hefyd wedi arwain at ffurfio Grŵp Rhyngwladol Strategol ar gyfer addysg bellach a fydd yn symud yr agenda hon yn ei blaen trwy ei ymgysylltiad â Taith a Chymru Fyd-eang III.” 

Bydd y Strategaeth hefyd yn ceisio alinio â strategaethau rhyngwladol ehangach, datblygu partneriaethau pwrpasol a dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru i lywio profiad y dysgwr. 

Gwybodaeth Bellach 

Strategaeth Rhyngwladoli ColegauCymru
Medi 2022  

Sian Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ac Ewropeaidd 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.