ColegauCymru yn ymuno ag Emsi Burning Glass i edrych ar farchnad lafur Cymru a beth mae hyn yn ei olygu i'r sector addysg bellach

Emsi Event Cymraeg.png

Yn dilyn cyfres gweminar hynod lwyddiannus ym mis Tachwedd 2020, mae ColegauCymru ac Emsi Burning Glass unwaith eto yn ymuno i edrych ar farchnad lafur Cymru a beth mae hyn yn ei olygu i'r sector addysg bellach.

Bydd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies, Prif Weithredwr Coleg Cambria Yana Williams a Dirprwy Bennaeth Coleg Penybont Viv Buckley yn ymuno â ni wrth i ni edrych ar sut y gall y sector a cholegau unigol ymateb i'r heriau niferus sydd o'n blaenau.

Pwy ddylai fynychu?

Bydd y digwyddiad AM DDIM hon yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol i bawb sydd â diddordeb yn y sector addysg bellach gan gynnwys uwch dimau rheoli, penaethiaid ysgol, rheolwyr canol a staff gweithredol. 

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad: Dydd Iau 18 Tachwedd 2021 
Amser: 9.30yb - 10.30yb 
Lleoliad: Ar-lein (Zoom) 
 
Gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno â ni ar gyfer y sesiwn addysgiadol hon ac edrychwn ymlaen at eich croesawu. 

Cofrestrwch eich lle AM DDIM

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.