ColegauCymru yn arwain prosiect arloesol i helpu i gyflwyno sgiliau sero net a gwyrdd gan sector addysg bellach yng Nghymru

CroppedNetZeropls.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o arwain prosiect a fydd yn chwarae rhan bwysig yn cydlynu cynlluniau ar gyfer ehangu ôl-osod a darpariaeth sgiliau gwyrdd ehangach ar draws sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn gweithio  a gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, bydd y prosiect yn cefnogi colegau wrth iddynt baratoi i fodloni gofynion presennol a dyfodol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu sgiliau gwyrdd - rhan o'u Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net.

Bydd y prosiect yn cefnogi datblygiad y gofynion sgiliau angenrheidiol i:

  • helpu i greu swyddi gwyrdd mewn ynni adnewyddadwy, allyriadau sero net a’r sector sy’n seiliedig ar natur;
  • caniatáu i sectorau penodol megis ynni, trafnidiaeth, adeiladu, amaethyddiaeth, a gweithgynhyrchu i gefnogi'r newid i allyriadau sero net; a
  • sefydlu gofynion mwy generig ar draws pob sector sy'n gyrru economi sero net.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru, Kelly Edwards,

“Mae ColegauCymru mewn sefyllfa dda i arwain prosiect i gydlynu ôl-osod a darpariaeth sgiliau gwyrdd ehangach ar draws colegau addysg bellach yng Nghymru. Mae’r sector eisoes yn datblygu gallu i ddiwallu’r anghenion sgiliau newydd hyn drwy atebion arloesol a phwrpasol.”

“Bydd y prosiect hwn yn galluogi dealltwriaeth ddyfnach o’r ddarpariaeth gyfredol ac arferion da sydd eisoes yn cael eu datblygu. Bydd y prosiect hefyd yn gwella dealltwriaeth ac yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth gyda rhanddeiliaid ehangach mewn sawl maes allweddol.”

Gwybodaeth Bellach

Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu
Kelly.Edwards@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.