ColegauCymru yn edrych ymlaen at adeiladu ar berthynas gref Estyn wrth i Brif Arolygydd newydd gael ei benodi

Male hands with pen and paper.png

Mae ColegauCymru yn falch o longyfarch Owen Evans ar ei benodiad yn Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi newydd yng Nghymru. 
  
Bydd Mr Evans yn cymryd lle'r Prif Arolygydd presennol Meilyr Rowlands, a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst 2021, ac a fydd yn dechrau yn y swydd o fis Ionawr 2022. 
   
Dywedodd Prif Weithredwr ColeguCymru, Iestyn Davies,

“Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at weithio gydag Owen a’r tîm addysg ôl-16 Estyn, i barhau â’r berthynas sydd wedi’i gosod ar sail mor gadarn gan Meilyr Rowlands. 
  
“Yn ystod ei gyfnod deiliadaeth, mae Estyn wedi ymgysylltu’n adeiladol ac mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach wrth ddatblygu dull o arolygu sy’n adlewyrchu amrywiaeth y dysgu a gynigir o fewn colegau a rhaglenni prentisiaeth. Bydd gan Estyn rhan bwysig i'w chwarae yn nyfodol addysg ôl-orfodol wrth bontio'r bwlch rhwng arolygu a hunan-wella, a'r systemau sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â darpariaeth lefel uwch.” 


Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
Cyhoeddi Prif Arolygydd newydd Estyn
22 Gorffennaf 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.