ColegauCymru yn falch i gefnogi Diwrnodau Agored Rhithiol

Mae ColegauCymru yn cefnogi cyfres o Ddiwrnodau Agored Rhithiol a gynhelir gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf.

Yn ystod yr amser anodd hwn, sefydlwyd y digwyddiadau hyn i ennyn diddordeb dysgwyr Blwyddyn 11, i godi dyheadau ac i roi gobaith a sicrwydd ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o gofio na all y diwrnodau agored arferol ôl-16 oed ddigwydd yn yr un modd ag o'r blaen. Mae Covid19 yn debygol o effeithio'n andwyol ar bobl ifanc, gyda'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle iddynt liniaru'r effaith hon a'u helpu i wneud dewisiadau gwybodus.

Bydd hefyd yn gyfle i'w groesawu i dawelu meddwl pobl ifanc a rhieni fel ei gilydd bod ystod o gyfleoedd addas ar gael iddynt.

Rhennir y digwyddiadau yn 4 rhanbarth daearyddol - De Ddwyrain, Canol De, Canolbarth a De Orllewin, a Gogledd Cymru. Bydd dysgwyr yn derbyn cyngor ac arweiniad gan gynghorwyr gyrfaoedd, ac yn dysgu mwy am ysgolion a cholegau, prentisiaethau a hyfforddeiaethau.

Amcanion y digwyddiadau hyn yw:

  • cynorthwyo trosglwyddo o Flwyddyn 11 i astudiaeth ôl-16;
  • helpu pobl ifanc i ddewis y llwybr cywir;
  • darparu gwybodaeth benodol am yrfaoedd a chymwysterau;
  • hyrwyddo'r cyfleoedd a'r cymwysterau sydd ar gael; a
  • creu ystorfa o adnoddau sydd ar gael yn rhwydd i ddysgwyr, athrawon a rhieni Blwyddyn 11

Beth all myfyrwyr ei ddisgwyl?

  • Bydd digwyddiadau byw gyda sesiynau holi ac ateb yn allweddol i'r Dyddiau
  • Bydd dysgwyr yn gallu mynd ar daith rithwir o amgylch campws yr ysgol, y coleg neu'r darparwr dysgu
  • Bydd cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw hefyd ar gael i'w weld yn nes ymlaen

Gwybodaeth bellach

  • Ewch i wefan Cymru’n Gweithio am fanylion am ddigwyddiadau sy'n digwydd yn eich ardal chi.
  • Bydd cynghorwyr gyrfaoedd wrth law i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad diduedd.
  • Gall myfyrwyr a rhieni fel ei gilydd geisio cefnogaeth trwy ffonio 0800 028 4844 neu drwy anfon e-bost at post@gyrfacymru.llyw.cymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.