ColegauCymru yn adnewyddu’r galw ar ddysgwyr hyd at 25 oed i gael hawl statudol i gael mynediad at addysg neu gyfleoedd dysgu eraill

Female learner with laptop.jpg

Bydd Gwarant i Bobl Ifanc yn helpu i sicrhau chwarae teg i bob dysgwr ifanc yng Nghymru.

Bydd cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru sy’n addo rhoi cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael chwarae teg ac na fydd pandemig Covid19 yn effeithio'n andwyol arnynt yn y tymor hir. 

Ar wahân i effeithiau'r pandemig dros y 15 mis diwethaf, mae ColegauCymru wedi nodi ers cryn amser bod cyfnod heriol yn wynebu llawer o ddysgwyr rhwng 16 a 25 oed, waeth beth yw eu llwybr dewisol o addysg bellach/uwch neu hyfforddiant. O'r herwydd, roedd yr alwad am fwy o ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn ofyniad allweddol yn ein gofynion polisi ar gyfer Etholiadau diweddar y Senedd.

Dros y ffin yn Lloegr, mae gan bobl ifanc hyd at 19 oed hawl statudol i addysg, nad yw hynny'n wir yma yng Nghymru. Ailadroddwn ein galwad ar Lywodraeth Cymru i roi'r hawl statudol i ddysgwyr, hyd at 25 oed, gael mynediad at addysg neu gyfleoedd dysgu. Mae'r cyhoeddiad yn gam i'w groesawu ac yn sylfaen gadarn i'r ddarpariaeth hon, ac mae'r heriau parhaus sy'n wynebu pobl ifanc o ganlyniad uniongyrchol i Covid19 yn golygu bod hyn hyd yn oed yn bwysicach. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth i sicrhau nad oes unrhyw bobl ifanc yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl. Mae hwn yn gam cyntaf addawol ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am sut y bydd y llywodraeth yn gwireddu’r warant hon.”

Mae cyhoeddiad heddiw yn caniatáu nid yn unig am y cyfle i ennill cymwysterau, ond i bobl ifanc gymryd rhan mewn hyfforddiant a chael profiadau gwaith ystyrlon, a gallu mynegi eu hunain ym myd gwaith. Bydd hefyd yn hanfodol sicrhau cefnogaeth ddigonol i gyflogwyr i'r buddsoddiad hwn gyfrannu'n llwyddiannus at yr adferiad economaidd ôl-Covid hanfodol.

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru 
“Bydd Gwarant i Bobl Ifanc yn helpu i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yng Nghymru”, Vaughan Gething 
21 Mehefin 2021 
 
Maniffesto ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru 
Llwyddiant yn y Dyfodol: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru mewn Addysg Ôl-16 a Dysgu Gydol Oes i Gymru 
Mawrth 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.