ColegauCymru yn gofyn am eglurder pellach ar Ganllawiau Gweithredu Diogel y sector ôl-16 o fis Medi

Heddiw mae ColegauCymru wedi nodi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’r Canllawiau ar gyfer Gweithredu Diogel o fis Medi 2020 ar gyfer y sector ôl-16.

Er ein bod yn galonogol bod canllawiau i sicrhau bod yr amgylchedd dysgu Covid19 yn ddiogel wedi'u cyhoeddi o'r diwedd, rydym yn parhau i bryderu am y cwestiynau niferus heb eu hateb ac yn annog eglurder ar y cyfle cyntaf. Mae'r canllawiau sy'n ymwneud â materion trafnidiaeth, dysgwyr a staff bregus yn parhau i fod yn aneglur. Ceisir mwy o eglurder hefyd ar ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS). Rhaid sicrhau cynhwysiant digidol ac osgoi tlodi digidol fod yn flaenoriaeth i'r Gweinidog wrth inni baratoi ar gyfer ail don bosibl, ac i ddiogelu'r sector addysg bellach ar gyfer y dyfodol. Nid yw'r cyllid ychwanegol y cytunwyd arno hyd yma yn ddigonol i gefnogi’r gofynion hyn.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Er ein bod yn falch bod cynnydd wedi’i wneud gyda chyhoeddi canllawiau heddiw, mae’r tymor newydd ddim ond 5 wythnos i ffwrdd gyda llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd. Rhaid mynd i’r afael â’r materion ymarferol hyn ar frys.”

Ychwanegodd Cadeirydd ColegauCymru a Phrif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Dafydd Evans,

"Rydym wedi bod yn ddiolchgar i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r Canllawiau ar gyfer Gweithredu Diogel o fis Medi 2020, ac edrychwn ymlaen at ddeialog barhaus i ddatrys pryderon cyllido a throi ymrwymiad y Gweinidog i gydraddoldeb mewn tal yn realiti.”

Gwybodaeth bellach

Datganiad i'r wasg Llywodraeth Cymru:
Canllawiau newydd i gefnogi darparwyr addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru yn sgil y coronafeirws

Canllawiau:
Fframwaith strategol ar gyfer darpariaeth dysgu o fis Medi 2020
Canllawiau ar weithredu’n ddiogel yn addysg ôl 16 o fis Medi 2020 ymlaen
Canllawiau dysgu cyfunol ar gyfer darparwyr ôl-16

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.