ColegauCymru’n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol

pexels-miesha-moriniere-2547171.jpg

Mae ColegauCymru yn cefnogi datganiad y Gweinidog Addysg mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw na fydd unrhyw oedi pellach wrth gyflwyno system newydd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 o fis Medi 2021. 

Er ein bod yn cydnabod bod argyfwng Covid19 wedi dod â heriau digynsail a’r angen i ail-flaenoriaethu gwaith, rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i sicrhau bod y cod ADY a rheoliadau cysylltiedig yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. 

Mae colegau addysg bellach ledled Cymru wedi cydnabod a hyrwyddo pwysigrwydd anghenion dysgu ychwanegol, diogelu dysgwyr sy’n agored i niwed, a'r gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd ers amser maith. Credwn y bydd cyhoeddiad heddiw yn sicrhau bod y gwaith hanfodol hwn yn parhau fel y gall pob dysgwr mewn addysg ôl-16 gyflawni ei botensial/photensial. 

Dywedodd Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol ColegauCymru, Chris Denham

“Mae ColegauCymru ar ran ein haelodau wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i weithredu newidiadau yn unol â'r llinellau amser a osodwyd. Bydd cyllid ychwanegol a recriwtio staff yn hanfodol i gyflawni hyn.” 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.