ColegauCymru yn annog sicrwydd ariannol ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ôl-effeithiau Covid

Female learner with laptop.jpg

Heddiw mae ColegauCymru yn croesawu’n gynnes y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i addysg bellach yn dilyn cyhoeddi ei hadroddiad Ailgreu ar ôl Covi19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau, wrth annog sicrwydd ar ymrwymiad arian ychwanegol i fynd i’r afael ag ôl-effeithiau Covid yn y sector. 

Mae'r adroddiad yn nodi ei ymrwymiad i adeiladu dyfodol newydd i Gymru, gan ddarparu £320m ar unwaith tuag at y gwaith ailadeiladu. Rydym yn croesawu’n benodol un o’r blaenoriaethau allweddol a fydd yn cael ei ariannu dros y 6 mis nesaf ac sy’n cynnwys cefnogi pobl ifanc gyda darpariaeth ‘dal i fyny’ ychwanegol ar gyfer y rheini ym mlynyddoedd 11 i 13, ehangu cofrestriad ar gyfer lleoedd ychwanegol mewn addysg bellach a dyfeisiau digidol i helpu dysgwyr i gael mynediad i'w cyrsiau. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Dafydd Evans,

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar am gyllid ychwanegol wrth inni barhau i addasu i fyd ôl-Covid. Rydym yn edrych ymlaen at ein hymgysylltiad parhaus â'r Gweinidog a chydweithwyr yn y llywodraeth i egluro sut y bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddosbarthu, i gefnogi dysgwyr yn y ffordd orau posib ac ar gyfer adferiad economaidd ehangach”. 

Bydd yn hanfodol i'r llywodraeth fod yn hyblyg o ran sut y bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddosbarthu er mwyn sicrhau'r defnydd gorau o'r arian sydd ar gael. 

Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Rydym yn cefnogi’n gynnes y cyhoeddiad gan y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles AS ddoe. Mae'n hanfodol bod ymrwymiad yr arian ychwanegol yn cael ei drosi'n glir i gefnogaeth ymarferol er mwyn galluogi colegau addysg bellach i barhau â'u gwaith gwerthfawr".

Gwybodaeth Bellach

Datganaid i’r Wasg Llywodraeth Cymru 
Hwb gwerth sawl miliwn i gefnogi addewidion ar ôl Covid19 
6 Hydref 2020  

Polisi a Strategaeth Llywodraeth Cymru 
Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau 
6 Hydref 2020 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.