ColegauCymru yn croesawu penderfyniad clir ar ailagor colegau addysg bellach ond yn galw am flaenoriaethu brechu staff rheng flaen

Female learner with laptop.jpg

Heddiw mae ColegauCymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ohirio ailgyflwyno darpariaeth wyneb yn wyneb ar gyfer ysgolion a cholegau tan ar ôl yr egwyl hanner tymor. 

Gan weithio ar y cyd gydag undebau llafur, rydym nawr yn galw ar y llywodraeth i wneud pob ymdrech i adolygu protocolau brechu i sicrhau bod staff rheng flaen addysg bellach yn cael eu blaenoriaethu yng Nghymru. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey,

“Rydym yn croesawu’n fawr yr eglurder a ddarperir yn y datganiad heddiw. Rydym yn cefnogi'r penderfyniad anodd a wnaed gan y Gweinidog a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr i sicrhau bod iechyd a diogelwch dysgwyr a staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth inni. Rydym nawr yn gofyn i staff rheng flaen gael eu blaenoriaethu ar gyfer eu brechu i'w galluogi i ddychwelyd yn ddiogel i ddarpariaeth a chefnogaeth addysg mewn colegau.” 

Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio'n agos gydag undebau llafur i sicrhau bod gwelliannau parhaus yn cael eu gwneud i ddysgu cyfunol. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau'r ddarpariaeth orau bosibl i ddysgwyr sydd ag asesiadau cymwysterau galwedigaethol ac academaidd. Fel bob amser, bydd cryn ffocws ar ddiogelu dysgwyr yn ein gofal sy’n agored i niwed, lle byddwn yn cynnig cefnogaeth briodol yn ystod yr cyfnod heriol hyn. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr y llywodraeth ac undebau llafur yn ystod yr amser anodd hwn ac i sicrhau y gellir cynnal asesiadau technegol a galwedigaethol hanfodol ac nad ydynt yn ôl-ystyriaeth.” 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Prif Weinidog Cymru: “Arhoswch gartref i achub bywydau”
8 Ionawr 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.