ColegauCymru yn Croesawu Datganiad y Gweinidog Addysg ar “y Ffordd o Feddwl” ar y Camau Nesaf ar Gyfer Addysg yng Nghymru

Rydym yn croesawu cyhoeddiad dogfen waith heddiw sy'n nodi'r “meddwl ar hyn o bryd” ar gyfer sut y bydd ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn newid er mwyn caniatáu pellter cymdeithasol a ffactorau eraill. Mae'r Fframwaith ar gyfer cam nesaf addysg a gofal plant: ystyriaethau, cynllunio a heriau yn nodi sut mae'r Llywodraeth yn ystyried y camau nesaf i ddarparwyr addysg wrth ymateb i bandemig COVID19.

Ein blaenoriaeth fel bob amser yw parhau i weithio'n agos gyda'n haelodau, y Llywodraeth, undebau llafur a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod ailagor corfforol colegau yn cael ei wneud mor gynnar ag sy'n rhesymol ymarferol, ac yn y ffordd fwyaf diogel posibl.

Dywedodd Simon Pirotte, Prif Weithredwr Coleg Penybont sy'n arwain ymateb y sector i gyfyngiadau symud COVID19

"Mae ein Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi bod yn eithaf clir bod iechyd a lles ein staff a'n dysgwyr yn flaenoriaeth a bydd penderfyniadau'n seiliedig ar gronfa gadarn o dystiolaeth. Rwy'n hyderus y gallwn, trwy weithio gyda'n gilydd yng Nghymru, reoli'r trawsnewid hwn yn llwyddiannus."

Bydd ColegauCymru yn cyfarfod â'r Gweinidog Addysg a swyddogion eraill y Llywodraeth ddydd Llun 18 Mai lle byddwn yn gwneud cais ar gyfer arweiniad penodol ar gyfer sefydliadau addysg bellach, yn enwedig mewn perthynas â'r carfannau sylweddol o ddysgwyr galwedigaethol i sicrhau y gellir eu hasesu'n ddiogel er mwyn iddynt allu ennill eu cymwysterau cyn y diwedd blwyddyn academaidd 19/20.

Gwybodaeth Bellach

Y Fframwaith ar gyfer cam nesaf addysg a gofal plant: ystyriaethau, cynllunio a heriau
Datganiad i’r Wasg y Gweinidog Addysg, a gyhoeddwyd ar 15 Mai 2020: Y Gweinidog Addysg yn datgan ‘y ffordd o feddwl’ am ddychwelyd i ysgolion

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.