Cydweithredu a chydlafurio yn hanfodol i sicrhau asesiadau llwyddiannus yn haf 2021

ben-mullins-oXV3bzR7jxI-unsplash (2).jpg

Mae ColegauCymru yn galw am gydweithredu a chydlafurio rhwng pob rhan o’r sector addysg yn dilyn cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Addysg ar ddarparu arholiadau ac asesu ar gyfer cymwysterau academaidd yn haf 2021. 

Mae hwn yn gyhoeddiad i'w groesawu sy'n rhoi eglurder ynghylch y ffordd ymlaen i bob dysgwr. Bydd hefyd yn bosibl i staff addysgu gynllunio'n briodol i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl wrth i ni barhau i lywio'r amseroedd ansicr hyn. Rhaid i'r Gweinidog sicrhau digon o hyblygrwydd i ganiatáu i'r sector allu addasu i'r dirwedd addysg aflonyddgar sy'n newid yn barhaus oherwydd cyfnodau clo, cyfnodau atal byr a hunan-ynysu.

Erys pryder ynghylch cwestiynau heb eu hateb mewn perthynas â rhaglenni cymwysterau galwedigaethol a thechnegol.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rhaid i ni sicrhau bod asesu pynciau technegol yr un mor hyblyg. Rhaid i'r pynciau hyn allu addasu i'r amgylchedd addysg a chyflogaeth newidiol y mae'r pandemig wedi'i achosi. Rhaid i gyrff dyfarnu sy'n arbenigo mewn cymwysterau technegol a galwedigaethol sicrhau bod eu dull o asesu yn caniatáu i ddysgwyr allu symud ymlaen i waith neu astudio ymhellach."

“Mae aflonyddwch pellach yn debygol os nad yn anochel. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi cefnogaeth ariannol ac ymarferol ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ac adlewyrchu hyn yn y gyllideb a bennwyd o 1 Ebrill 2021.”

Ychwanegodd Cadeirydd ColegauCymru Dafydd Evans,

“Rydym yn falch i ddysgu bod penderfyniad ar ddarpariaeth arholiadau ac asesu ar gyfer cyfres haf 2021 wedi’i wneud. Mae'n galonogol gwybod na fydd y gweithgareddau asesu cyntaf yn cychwyn tan hanner olaf tymor y gwanwyn, ac y bydd gweithgareddau o'r fath yn seiliedig ar ganlyniad gweithgor sydd â chynrychiolaeth gref o'r sector addysg bellach. Ymhellach, mae ymgysylltiad y llywodraeth â phrifysgolion y DU wedi arwain at y sicrwydd na fydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi dysgwyr Cymru dan anfantais”.

Bellach mae angen cynllun manwl ar ddysgwyr a staff fel ei gilydd ar gyfer y misoedd nesaf i gael eu rhoi ar waith a'u cyfleu cyn gynted â phosibl. Rhaid i bob penderfyniad gael ei gyd-adeiladu, a'i arwain gan ddatrysiadau. Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i barhau i weithio'n agos gyda'r Gweinidog, cydweithwyr y llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ateb cyflym ac ymarferol. Byddwn yn gwneud hyn gydag anghenion y dysgwyr wrth wraidd yr holl benderfyniadau.

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru
Dull Cymru o ymdrin â chymwysterau yn 2021 yn cael ei gadarnhau gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams
10 Tachwedd 2020
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.