Colegau'n galw am weithredu ar frys ar ganlyniadau Safon Uwch

Ar ran ein haelodau ac yng ngoleuni cyhoeddi canlyniadau cymwysterau UG a Safon Uwch heddiw, mae ColegauCymru yn gofyn am adolygiad brys o'r broses ddyfarnu.

Er gwaethaf canslo arholiadau, mae'r canlyniadau'n debyg i flynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, ac yn destun pryder, mae colegau ledled Cymru wedi gweld anghydraddoldebau sylweddol yng nghanlyniadau dysgwyr unigol. Mae hyn yn naturiol yn peri cryn bryder a rhwystredigaeth i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr a staff.

Dywedodd Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru,

“Bydd y graddau y mae dysgwyr yn eu derbyn heddiw ar lefel UG a Safon Uwch yn cael effaith enfawr ar eu penderfyniadau nawr ac yn y dyfodol. Rhaid i ni sicrhau bod y graddau a ddyfernir yn deg ac yn gywir fel y gall dysgwyr symud ymlaen ar y llwybr o'u dewis."

Pryderon Safon Uwch (Lefel A/A2)
Mae ColegauCymru’n galw ar Gymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru i egluro'r broses apelio ar gyfer y dysgwyr hynny y mae eu graddau Safon Uwch yn is na'r radd a ragwelir, a aseswyd gan ganolfan, ond sy'n uwch na'u canlyniad UG. Rhaid sefydlu proses apelio gyflym a chadarn i sicrhau bod ymholiadau sy'n ymwneud â graddau dysgwyr unigol yn cael eu datrys yn gyflym, er mwyn caniatáu dilyniant priodol. Dylai’r broses apelio flaenoriaethu'r ymgeiswyr hynny y mae'r amgylchiadau presennol wedi effeithio'n negyddol ar eu cam nesaf.

Yn yr un modd, yng ngoleuni datganiad y Gweinidog Addysg ddoe, mae angen i ddysgwyr ac eraill wybod pryd y byddant yn derbyn eu graddau Safon Uwch terfynol a gofynnir am gadarnhad gan Cymwysterau Cymru bod y canlyniadau A2 cywir wedi'u derbyn gan UCAS ac y gellir eu defnyddio gan brifysgolion wrth asesu cais cychwynnol neu trwy'r broses glirio.

Pryderon graddau UG
Mae colegau ar draws y sector addysg bellach yn poeni'n fawr am yr effaith y mae'r broses safoni wedi'i chael ar ganlyniadau UG. Maent yn adrodd ar faterion sylweddol mewn perthynas â graddau UG ac yn nodi amheuon ynghylch dibynadwyedd y modelau safoni a'r algorithmau a ddefnyddir gan CBAC ac a gymeradwywyd gan Cymwysterau Cymru wrth gyrraedd canlyniadau eleni. Rydym nawr yn galw ar CBAC a Cymwysterau Cymru fynd i'r afael â'n pryderon ar frys ac i ddisodli'r broses ddyfarnu ar gyfer UG gyda model tebyg i'r un a welir yn yr Alban, sydd wedi dychwelyd i raddau a aseswyd gan ganolfannau (CAG).

Mae graddau ailsefyll UG 2020 wedi'u cyhoeddi'n swyddogol gan CBAC i nifer o ddysgwyr. Fodd bynnag, dywedwyd ac yna ei wrth-ddweud gan CBAC bod yr uwchraddio neu'r amddiffyniad a gynigiwyd gan y Gweinidog ddoe yn berthnasol i raddau UG 2019 yn unig. Mae'n ymddangos bod graddau ailsefyll 2020 wedi bod trwy'r broses gymedroli ac maent bellach yn swyddogol. Ni ddarparodd datganiad y Gweinidog fanylion y byddai'r amddiffyniad yn seiliedig ar raddau 2019 yn unig ac rydym yn ceisio eglurhad yma.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies,

“Mae ein haelodau wedi gweithio’n ddiflino dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, gan ddilyn canllawiau a’u prosesau mewnol cadarn eu hunain yn ofalus i sicrhau graddfa gymwysterau sydd yn deg ac yn gywir. Mae'r amser, yr ymdrech yn ogystal â'r ymroddiad y mae athrawon ac arweinwyr cwricwlwm wedi'u rhoi i’r broses ddyfarnu i sicrhau bod ei gywirdeb wedi bod yn ddigynsail ac yn sylweddol, dim ond i gael ei effeithio'n andwyol gan broblemau modelau safoni a ddefnyddir gan CBAC."

Edrych ymlaen at 2021
Rydym yn galw ar y Gweinidog Addysg i roi sicrwydd y bydd CBAC a CymwysterauCymru yn sicrhau na fydd canlyniadau UG 2020 yn cyfrannu at raddau Safon Uwch yng nghyfres haf 2021. Os bydd argyfwng iechyd cyhoeddus pellach yn arwain at darfu ar gyfres 2021, rhaid i ddysgwyr fod yn hyderus y gweithredir ar wersi 2020 i ddiogelu eu dyfodol. Mae'r sector hefyd yn galw am amlinelliad a chynllun clir yn nodi sut y bydd arholi ac asesu yn debygol o ddigwydd yr haf nesaf.

Daeth Iestyn Davies i’r casgliad,

“Mae’n hanfodol ein bod bellach yn gweithio’n agos gyda CBAC, Cymwysterau Cymru a chydweithwyr y llywodraeth i sicrhau bod materion cyfredol yn cael eu datrys yn gyflym ac nad oes unrhyw ôl-effeithiau negyddol yn cael eu teimlo’r flwyddyn nesaf. Bydd y graddau y mae dysgwyr yn eu derbyn heddiw, boed UG neu Safon Uwch, yn cael effaith enfawr ar eu proses benderfynu nawr ac yn y dyfodol. Rhaid i ni sicrhau bod y graddau a ddyfarnwyd yn deg ac yn gywir fel y gall dysgwyr symud ymlaen ar y llwybr o'u dewis. "

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.