Colegau yn dathlu llwyddiant canlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol

48543957881_24393aa287_c.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o ddathlu gyda dysgwyr o bob rhan o Gymru wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu cymwysterau heddiw.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey,

“Llongyfarchiadau i bob dysgwr wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau yn dilyn dwy flynedd anodd. Rydym hefyd yn anfon ein diolch diffuant at ein cydweithwyr addysg, a rhieni a gofalwyr fel ei gilydd sydd wedi cefnogi pobl ifanc wrth iddynt lywio’r cyfnod anodd hwn.”

Eleni gwelwyd yr amserlen lawn gyntaf o arholiadau ac asesiadau ers dechrau pandemig Covid19. Mae dysgwyr wedi wynebu cyfnod hynod heriol gyda llawer heb brofi asesiad ffurfiol neu amodau arholiad o'r blaen. Rydym yn falch o ddathlu eu gwytnwch wrth wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i barhau â’u taith ddysgu neu i symud i gyflogaeth.

Mae arholiadau ac asesiadau wedi’u graddio i adlewyrchu’r heriau a wynebir gan y garfan hon, gyda chanlyniadau cenedlaethol yn uwch na 2019 ond yn is na 2021. Gyda mwy o ddysgwyr nag erioed yn ymgeisio am leoedd prifysgol eleni, bydd hyn yn caniatáu chwarae teg i ddysgwyr Cymru sy’n edrych i symud ymlaen i addysg uwch.

Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyllid o £24m ar gyfer colegau, ysgolion ac awdurdodau lleol a ddarparodd adnoddau ychwanegol, a helpodd i wella presenoldeb ac ailennyn diddordeb dysgwyr. Roedd y cymorth ychwanegol hefyd yn caniatáu ar gyfer cydweithio gwell rhwng addysg bellach, ysgolion a phartneriaid eraill i gefnogi dysgwyr unigol, yn enwedig y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ymddieithrio, i ddatblygu cynlluniau pontio.

Waeth beth fo'u canlyniadau heddiw, mae dysgwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i golegau addysg bellach gyda gwasanaethau cyngor ac arweiniad bellach wrth law i'w cynorthwyo i gymryd y camau nesaf i ddyfodol disglair.

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Y Gweinidog Addysg yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod y canlyniadau
18 Awst 2022

Cysylltwch â'ch coleg lleol am gymorth ac arweiniad
Colegau Addysg Bellach ColegauCymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.