Colegau'n croesawu cyllid ychwanegol i gefnogi codiadau cyflog addysg bellach

numbers-money-calculating-calculation-3305.jpg

Heddiw mae colegau ledled Cymru wedi croesawu ymrwymiad y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles i chwistrelliad o £1.5m o gyllid ychwanegol i gefnogi costau codiadau cyflog staff. 

Mae ymrwymiad hir sefydlog Llywodraeth Cymru i dalu cydraddoldeb rhwng athrawon mewn ysgolion a darlithwyr addysg bellach wedi’i ailddatgan a bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei groesawu gan sefydliadau addysg bellach am weddill y flwyddyn ariannol hon. 

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Rydym yn croesawu datganiad heddiw a gwerthfawrogiad clir Llywodraeth Cymru o werth y sector addysg bellach yma yng Nghymru. Mae'r cyllid ychwanegol yn hanfodol i gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad staff colegau mewn 18 mis heriol. Bydd yn hwb i'w groesawu i staff sy'n parhau i lywio'r heriau a ddaw yn sgil y pandemig."

Mae'r cyllid ychwanegol wedi darparu cefnogaeth ariannol i Fawrth 2022. Bydd colegau nawr yn parhau i gysylltu'n agos â chydweithwyr yr undebau llafur i ystyried y camau nesaf. 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad Cabinet
Datganiad Ysgrifenedig: Codiad Cyflog Athrawon 2021 
8 Medi 2021
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.