Creu dull o ymdrin â thrawsnewid ADY ar lefel ‘coleg cyfan’

Cyn y cyfarfod ADY a gynhelir yr wythnos hon, rydym yn hapus i rannu fideo sy'n rhoi cyflwyniad i'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, a'r goblygiadau i ddarlithwyr a staff eraill mewn colegau. Cynhyrchwyd y fideo byr hwn gan Gynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu Digidol ColegauCymru, Hannah Murray, yn dilyn cais gan Coleg Sir Gâr. Bellach mae saith coleg ychwanegol wedi gofyn amdano.

Mae’r fideo yn cael ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant ‘Ymarfer Cynhwysol’ colegau ar gyfer staff academaidd, gan ddarparu trosolwg clir a phwysleisio’r pwysigrwydd bod yr holl staff yn ymwneud â chwrdd ag anghenion pobl ifanc ag ADY.

Rydym wedi derbyn adborth rhagorol hyd yn hyn:

“Diolch am y fideo, Chris. Roedd yn ardderchog ac wedi helpu i osod naws y gynhadledd.”

Coleg Sir Gâr.

Mae colegau’n brysur yn darparu hyfforddiant ‘Ymarfer Cynhwysol’ i staff addysgu ledled Cymru er mwyn ehangu’r ddealltwriaeth o anabledd, a gwella gwahaniaethu o fewn yr ystafell ddosbarth a’r gweithdy.

Mae dolen i'r fideo ar gael yma:https://youtu.be/ACscDxKJZZ4

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.