Diwylliant yn gyrru newid: Hyrwyddo agenda wrth-hiliol Cymru ym maes addysg bellach

Working together.jpg

Fel rhan o'n hymrwymiad i helpu i symud ymlaen agenda wrth-hiliol Cymru, rydym yn falch iawn o'ch gwahodd i lansiad partneriaeth ColegauCymru gyda Black FE Leadership Group (BFELG).

Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i adeiladu Cymru sy'n wrth-hiliol, ac un lle mae gan bob dysgwr yr hawl i addysg o'r radd flaenaf, wedi'i darparu mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol, o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.

Yn ymuno â ni ar gyfer lansiad ar-lein y bartneriaeth hon ar 1 Rhagfyr 2021 bydd Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS. Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at waith parhau ColegauCymru a'n chyd-flaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Bydd cynrychiolwyr BFELG hefyd yn siarad am y nodau 10 mlynedd ar gyfer addysg bellach yng Nghymru, gyda ffocws ar herio hiliaeth, cynyddu cyrhaeddiad sgiliau a chanlyniadau hyfforddi ymhlith dysgwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, tra hefyd yn cynyddu rolau arweinyddiaeth a llywodraethu ethnig amrywiol mewn addysg bellach.
 
Bydd trafodaeth banel byr yn caniatáu cwestiynau gan fynychwyr.

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad: 1 Rhagfyr 2021
Amser: 9.30yb - 10.30yb
Lleoliad: Ar Lein(Zoom)

Gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno ac edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Cofreswtrwch eich LLE AM DDIM

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.