Penaethiaid yn ymweld â Chanada i godi proffil addysg bellach a hwyluso cyfleoedd ar gyfer cydweithio

Canada 1.jpg

Ynghyd â chydweithwyr ar draws y sector Addysg Bellach yng Nghymru, ymwelodd Pennaeth Coleg Merthyr Tudful, Lisa Thomas, â Montreal yn ddiweddar i fynychu Cyngres Flynyddol Ffederasiwn Colegau a Cholegau Pholytechnig y Byd/Colegau a Sefydliadau Canada. 

Fe wnaeth y digwyddiad ffocysu'n gryf ar gyfres o weithgareddau cofleidiol gyda’r nod o godi proffil y sector addysg bellahc yng Nghymru tra’n hwyluso cyfleoedd ar gyfer partneriaethau gyda sefydliadau addysg bellach a sefydliadau perthnasol eraill yng Nghanada ac yn fyd-eang. 

Yma, mae Lisa yn rhannu rhai myfyrdodau ar yr ymweliad. 

Trefnodd ColegauCymru ynghyd â Cymru Fyd-eang ddirprwyaeth allanol o Benaethiaid colegau i fynychu’r gynhadledd ym mis Ebrill, a ddaeth ag arweinwyr ôl-16 o bob rhan o’r byd ynghyd yn y digwyddiad mwyaf o’i fath. Ariannwyd y ddirprwyaeth gan Raglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru, Taith, ac roedd colegau Cymru yn falch o gael y cyfle i fynychu’r digwyddiad pwysig hwn ac i rwydweithio a dysgu oddi wrth fwy na 1,300 o gydweithwyr addysg bellach o bob rhan o’r byd. 

Y prif siaradwr blaenllaw a agorodd y Gynhadledd oedd Dr Farah Alibay, Peiriannydd Awyrofod Ffrengig-Canada. Gyda gyrfa ddisglair, gan gynnwys gweithio ar genhadaeth yr M2020 yn NASA a’r crwydro Perseverance a laniodd ar y blaned Mawrth yn 2021, mae hi’n eiriolwr ffyrnig dros fenywod a lleiafrifoedd mewn STEM. 

Cynhaliodd Association of Colleges sesiwn werthfawr ar ‘Brand TVET’ ac ymgyrchoedd #CaruEinColegau ac #WythnosColegau. Rhoddodd hyn gyfle i’r cynadleddwyr rannu eu heriau lleol, trafod sut maent yn codi proffil addysg alwedigaethol yn eu gwledydd, a chymryd rhan yn lansiad ‘Affinity Group’ byd-eang newydd. Roedd y sesiwn ‘Brand TVET’ yn gyfle i glywed gan golegau a llywodraethau o ystod eang o wledydd gan gynnwys Kenya, Singapôr, Awstralia, Guyana, a Dominica, sydd oll yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o gyfraniadau sylweddol colegau yn eu gwahanol colegau. 

Mae adeiladu partneriaethau diwydiant yn flaenoriaeth allweddol i golegau yng Nghymru, ac roedd y Gynhadledd yn gyfle i glywed am arfer gorau o bob rhan o’r byd, gan gynnwys: 

  • Polytechnig Abu Dhabi a adroddodd gynnydd sylweddol yng nghyfradd cyflogaeth eu dysgwyr, yn dilyn datblygu cymwysterau deuol a ffocws ar ddatblygiad proffesiynol. 
  • Gwlad y Basg a bwysleisiodd bwysigrwydd ‘meddwl yn fyd-eang, gweithredu’n lleol’, a sut mae partneriaethau diwydiant yn biler hollbwysig i’w system addysg dechnegol, gydag eco-systemau sgiliau rhanbarthol yn darparu fframwaith ar gyfer rhagoriaeth. Maent yn newid meddylfryd tuag at arloesi agored parhaus.
  • Awstralia a siaradodd am yr angen i addysg ymateb i dechnoleg aflonyddgar a chadw i fyny â chyflymder y newid yn y diwydiant. Maent ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar Ddiwydiant 4.0 a Rhyngrwyd y Pethau, ac anogodd y gynulleidfa i ddechrau meddwl yn wahanol am addysg. 

Cynhaliodd Coleg Norquest, Canada sesiwn ysbrydoledig ar eu datblygiad Cwricwlwm Gwrth-hiliaeth, a oedd yn cynnwys manylion ar: ddod yn sefydliad gwrth-hiliol; adnabod a datgymalu hiliaeth; hyrwyddo profiadau dysgu cynhwysol a diogel; a chyfrannu at ddad-drefedigaethu'r cwricwlwm. Roeddent yn pwysleisio pwysigrwydd cyd-greu dysgu – ‘dim byd amdanom ni hebddon ni’. Enw eu strategaeth yw ‘We are who we inlcude’. Roedd y sesiwn yn gyfle i ni fyfyrio ar ein taith tuag at ddod yn genedl Wrth-hiliol yma yng Nghymru erbyn 2030. 

Amlygodd y gynhadledd fod y sectorau addysg bellach ar draws y byd yn delio â heriau tebyg, er mewn cyd-destunau gwahanol. Roedd codi statws addysg dechnegol a galwedigaethol gyda llunwyr polisi, blaenoriaethu iechyd meddwl a lles dysgwyr yn dilyn pandemig Covid19, a chefnogi ymdrechion tuag at sero net ac ynni gwyrdd, yn themâu cyson ar draws y gwledydd a gymerodd ran. 

Roedd yn galonogol clywed bod Cymru ar y blaen mewn llawer o achosion, yn enwedig ein perthynas waith gref â’r llywodraeth. Ac er bod cymaint y gallwn ei ddysgu o hyd, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid yn fyd-eang i ddysgu a thyfu ein sector gyda’n gilydd. Roedd diddordeb gwirioneddol gan wledydd eraill yn y camau yr ydym yn eu cymryd yma yng Nghymru. 

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Colegau a Sefydliadau Canada, ColegauCymru a Phrifysgolion Cymru 

Yn ystod yr ymweliad, cynhaliodd ColegauCymru a Global Wales dderbyniad i ddathlu partneriaeth a chydweithio rhwng sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a Chanada, ac i nodi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Colegau a Sefydliadau Canada, ColegauCymru a Prifysgolion Cymru. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ymrwymo i ddatblygu cysylltiadau sefydliadol, a chydweithio mewn addysg bellach ac uwch rhwng Cymru a Chanada. Roedd y derbyniad hefyd yn fforwm i benaethiaid ac is-benaethiaid Cymru gysylltu â'u cymheiriaid yng Nghanada, gan ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i rwydweithio a datblygu partneriaethau. 

Treuliwyd diwrnod olaf yr ymweliad yn cyfarfod â chydweithwyr a theithio Cégep de Saint-Laurent, coleg Ffrangeg ei iaith gyda 5,000 o ddysgwyr wedi cofrestru. Roedd hwn yn gyfle i drafod heriau a dyheadau a rennir, gan gynnwys, creu diwylliant lle gallwn ddiwallu anghenion amrywiol ein dysgwyr i sicrhau eu llwyddiant; hyrwyddo amgylchedd cynhwysol, gofalgar a diogel; a blaenoriaethu cynaliadwyedd ym mywyd beunyddiol y coleg. Hoffwn ddiolch i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Mathieu Cormier, a’i dîm am ein croesawu yn y coleg. 

Mae’r gweithgareddau rhyngwladol hyn yn rhan hollbwysig o ymdrechion colegau i greu dinasyddion a rhwydweithiau byd-eang, a sefydlu partneriaethau pwrpasol a hyrwyddo Cymru i’r byd. 

--- 

Lisa Thomas, Pennaeth, Y Coleg Merthyr Tudful 

Ymunodd Lisa â’r sector addysg bellach fel Pennaeth Cynorthwyol ym mis Medi 2012. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel athrawes hanes, mae Lisa’n elwa ar dros 25 mlynedd o brofiad o rolau arwain a rheoli o fewn addysg uwchradd ac addysg bellach a llywodraeth leol. Fel aelod o ColegauCymru, mae Lisa wedi cynrychioli’r sector mewn nifer o weithgorau Llywodraeth Cymru ac wedi chwarae rhan ddylanwadol wrth lunio polisi’r llywodraeth ar y sector addysg bellach yng Nghymru. Mae hi hefyd yn arolygydd cymheiriaid profiadol ESTYN. Yn fwy diweddar mae Lisa wedi penodi Is-Gadeirydd Colegau Cymru ac wedi gweithredu fel Cadeirydd Dros Dro ar gyfer Rhwydwaith Cyfarwyddwyr AD ColegauCymru a Phwyllgor Negodi AB (WNCFE).

Gwybodaeth Bellach  

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ein Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.