Gwneud y gorau dros ddysgwyr galwedigaethol a thechnegol: Dyrannu cymorth ychwanegol yn ddoeth

Classroom.jpg

Mae Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) ledled Cymru yn paratoi i dderbyn cyllid Adnewyddu a Diwygio gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dysgwyr galwedigaethol a thechnegol yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23. Mae Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen yn cymryd golwg agosach ar bwysigrwydd darparu ymreolaeth i golegau sydd yn y sefyllfa orau i ddyrannu’r cymorth hwn.

Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus Mae’r sector Addysg Bellach wedi’i annog i ddysgu am £20m ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn benodol i gefnogi dysgwyr galwedigaethol a thechnegol ôl-16 yn 2022/23, yn enwedig gan fod pryderon sylweddol yn parhau mewn perthynas â’r asesiadau technegol a’r ardystiad sydd ei angen ar ddysgwyr galwedigaethol i fynd i mewn i'w dewis faes gwaith. Bydd yn hanfodol meddwl am y ffordd orau o ddyrannu'r cyllid hwn i sicrhau bod dysgwyr a staff yn cael eu cefnogi'n llawn ac yn cael eu cynnwys yn y broses o'i gyflwyno.

Canfu canfyddiadau o ddatganiad ystadegol diweddar gan Lywodraeth Cymru yn edrych ar ddeilliannau dysgu ar gyfer dysgwyr ar raglenni galwedigaethol, rhaglenni addysg gyffredinol, prentisiaethau neu gyrsiau addysg oedolion rhwng Awst 2020 a Gorffennaf 2021 fod canlyniadau wedi bod yn waeth i ddysgwyr ar raglenni galwedigaethol nad ydynt yn rhai Lefel 3, prentisiaethau ac addysg oedolion. Mae’r datganiad ystadegol hefyd yn nodi bod llawer o anghydraddoldebau mewn canlyniadau ôl-16 wedi ehangu neu wedi ail-ymddangos yn 2020/21.

Bydd yr £20m ychwanegol yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau sy'n cael eu hamlygu yn y datganiad, ond ni ddylai cymorth gael ei ddarparu mewn dull cyffredinol, un ateb i bawb. Credwn mai ein colegau sydd yn y sefyllfa orau i ddeall a darparu ar gyfer anghenion eu dysgwyr, cyflogwyr lleol a’r gymuned ehangach. Felly, dylai colegau gael yr ymreolaeth i dargedu ymyriadau yn y ffordd orau i gefnogi eu dysgwyr a’u staff technegol a galwedigaethol.

Rydym wedi bod yn hynod ymwybodol ers tro o’r heriau penodol sydd wedi wynebu addysg dechnegol oherwydd y pandemig. Yn wahanol i astudio ar gyfer Safon Uwch, mae angen i ddysgwyr technegol fod wedi ymdrin â'r holl feysydd astudio perthnasol. Yn syml, nid yw addasiadau i’r cwricwlwm yn bosibl yn yr un modd. Rhaid i ddysgwr technegol mewn adeiladu, er enghraifft, allu dangos yr un safon gyffredinol ym mhob maes lle mae angen cymhwysedd technegol. Mae hyn yn golygu bod angen i'r amser a'r cyfleusterau fod ar gael i gwblhau'r rhaglen ddysgu gyfan ac ymdrin â phob maes ymarfer crefft. Mae arweinwyr addysg bellach yn aml wedi tynnu sylw at yr angen i allu cynllunio a darparu math o gymorth wedi’i deilwra’n well.

Gyda chymaint o sylw yn cael ei roi i ganlyniadau Lefel A a TGAU, yr her i SABau hefyd yw osgoi blaenoriaethu’r meysydd y maent yn cystadlu ag ysgolion ynddynt. Er bod angen cefnogaeth eang ar bob dysgwr ôl-16 wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae dysgwyr technegol yn aml angen cymorth pwrpasol yn seiliedig ar y meysydd y maent wedi'u methu oherwydd yr aflonyddwch. Dim ond arweinwyr o fewn pob coleg, yn aml ym mhob maes masnach benodol, fydd yn y sefyllfa orau i neilltuo ble, sut, a phryd y mae angen y cymorth hwn.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac arbenigedd ein colegau, mae’n rhaid i’r ffocws ar gyfer y sector fod ar wir ddealltwriaeth anghenion ein dysgwyr technegol i’w galluogi i gyflawni yn eu dewis faes. Yna, yn hollbwysig, rhaid inni sicrhau bod y dysgwyr hyn yn cyflawni eu llawn botensial. Mae unrhyw beth llai mewn perygl o wreiddio'r bwlch academaidd/galwedigaethol ymhellach.

Gwybodaeth Bellach

Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru
Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19)
16 Chwefror 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.