Ymateb Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant meddyliol i Gymru 2024 i 2034

mental-health.jpg

Ymateb Ymgynghoriad

Llywodraeth Cymru

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 11 Mehefin 2024

Wrth ystyried y strategaeth yn ei chyfanrwydd, teimlwn y gallai fod ffocws mwy cytbwys rhwng angen clinigol am iechyd meddwl ac ymyriadau a dull ataliol tymor hwy. Mae’r genhadaeth a’r weledigaeth yn adlewyrchu’r ffocws ar ymyriadau iechyd meddwl ond ymhellach i mewn i’r strategaeth cyfeirir at lu o bolisïau a phrosiectau llesiant a rhai eraill gan Lywodraeth Cymru. Awgrymwn y gellid cyfeirio at hyn yn fwy cryno er mwyn cadw’r strategaeth yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles. Ers y Pandemig mae'r angen am y cymorth hwn yn cynyddu ac mae adnoddau wedi'u hymestyn, o ran nifer yr atgyfeiriadau a chymhlethdod yr achosion.

Gwybodaeth Bellach

Jamie Adair, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.