Mae arweinyddiaeth effeithiol yn hanfodol i lwyddiant y sector AB

roundtable.jpeg

Mae ColegauCymru ynghyd â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, yn falch o gyhoeddi adroddiad yn canolbwyntio ar ddeall arweinyddiaeth yn y sector AB.

  • Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, comisiynwyd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru i gynnal ymchwil yn 2022 i helpu i ddatblygu dealltwriaeth o sawl maes allweddol gan gynnwys:
  • Recriwtio, cadw, rheoli talent a chynllunio olyniaeth ar draws y sector AB.
  • Natur y cynnig dysgu proffesiynol presennol i arweinwyr a’r hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol.
  • Y rhwystrau allweddol (gwirioneddol a chanfyddedig) i fynd i mewn i rolau arwain, symud ymlaen i uwch arweinyddiaeth, ac aros mewn rolau arweinyddiaeth.
  • Profiad arweinwyr o’u lles eu hunain ac eraill. Byddai hyn o reidrwydd yn cyffwrdd ag effaith y pandemig ond ni fyddai'n cael ei gyfyngu i'r cyfnod hwn yn unig.

Mae’r sector AB yng Nghymru yn rhan hanfodol o’r dirwedd ôl-16. Mae’n cynnig cyfleoedd dysgu a llwybrau i bobl o bob oed mewn addysg alwedigaethol a chyffredinol yn ogystal â chyflogadwyedd, dysgu oedolion yn y gymuned, a dysgu seiliedig ar waith. Mae colegau yn sefydliadau mawr, cymhleth sy'n gwasanaethu ac yn gweithio gyda chymunedau amrywiol a rhanddeiliaid cymhleth.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r sector i fwrw ymlaen â’r argymhellion yn yr adroddiad i ddatblygu arweinyddiaeth gryfach, fwy amrywiol a chynhwysol.

Gwybodaeth Bellach

Deall Arweinyddiaeth yn y sector AB yng Nghymru

Darllenwch yr adroddiad 

Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblyg
Kelly.Edwards@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.