Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel Endid Cyfreithiol - Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

college.png

Yn un o’i weithredoedd olaf yn 2022, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, wedi sefydlu’n ffurfiol y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) newydd. 

Mae sefydlu CTER yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth, sy’n cyflwyno rhai o’r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i fframwaith ein system addysg ers datganoli. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i arloesi gydag un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydlynu cyffredinol ar gyfer addysg drydyddol. Roedd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn un o’r biliau olaf i gael Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II, cyn iddi farw yn gynharach eleni. 

Mae CTER bellach yn bodoli fel endid cyfreithiol, ac er na fydd yn dod yn gwbl weithredol tan fis Ebrill 2024, mae Gweinidogion Cymru wedi dechrau penodi aelodau craidd y Comisiwn a chyflawni gweithgareddau gweithredu corfforaethol allweddol. Mae ColegauCymru yn nodi’r cyhoeddiad cyn penodi’r ymgeiswyr a ffefrir ar gyfer rolau Cadeirydd CTER, y Fonesig yr Athro Julie Lydon, a Dirprwy Gadeirydd CTER, yr Athro David Sweeney. 

Mae’n hanfodol bod llais y sector addysg bellach yn cael ei glywed yn glir o fewn y Comisiwn. Nid ydym eisiau dychwelyd i ddyddiau addysg bellach fel cynnig ail gyfradd o fewn addysg ôl-16, a bydd hynny’n gofyn am arweinyddiaeth y Comisiwn i ddeall anghenion penodol dysgwyr o fewn y sector a’r gwahanol ffyrdd y mae colegau’n eu gwasanaethu, a’u cymunedau. Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw a’u tîm yn y blynyddoedd i ddod i sicrhau bod rôl unigryw addysg bellach yn cael ei chydnabod, a bod CTER yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg bellach o safon fyd-eang yng Nghymru. 

Cyfrifoldeb CTER fydd gwireddu’r weledigaeth a nodir yn argymhellion adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn yn 2016, Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru, o system ôl-orfodol integredig a chydlynol, system addysgol gyda llwybrau a chyfleoedd i bob dysgwr. Ysgrifennodd yr Athro Hazelkorn: 

“Mae un corff goruchwylio ar gyfer addysg drydyddol yn gwneud synnwyr ar adeg pan oedd cenhedloedd yn gynyddol yn rhoi mwy o sylw polisi i’r rhai nad ydynt yn mynychu’r brifysgol, ac felly’n edrych yn gynyddol ar ddatblygu systemau ôl-orfodol “mwy cydlynol”. 

Ers ei sefydlu, mae ColegauCymru wedi amlygu’r angen i CTER fynd i’r afael yn briodol â mater cystadleuaeth ddibwys i ddysgwyr (rhwng chweched dosbarth ysgolion ac addysg bellach, ac adddysg bellach ac addysg uwch o ran cyrsiau mynediad) sydd yn aml yn dal i arwain at aneffeithlonrwydd, heb ddarparu’r cyfleoedd gorau i ddysgwyr a pheidio â chael y gwerth gorau i arian cyhoeddus. Mae ethos yr amcanion y tu ôl i'r Ddeddf yn gosod y sylfeini ar gyfer parch cydradd. 

Er bod y Ddeddf yn darparu’r fframwaith strwythurol, mae llawer o’r manylion ar ôl i’w cwblhau drwy is-ddeddfwriaeth a rheoliadau yr ydym yn eu disgwyl yn y flwyddyn newydd. Wrth i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gosod, rydym hefyd yn edrych ymlaen at sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o natur y berthynas rhwng CTER a Llywodraeth Cymru, a sut y gellir datrys unrhyw wahaniaethau barn posibl. 

Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau strategol i CTER 11 i fynd i’r afael â nhw gan gynnwys materion fel hybu dysgu gydol oes; annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol; hyrwyddo cyfle cyfartal ac ymchwil ac arloesi a hyrwyddo cenhadaeth ddinesig. Mae'r ddyletswydd strategol ar gydraddoldeb yn hollbwysig o ran datblygu Cymru decach a mwy cyfartal a bydd yn adeiladu ar waith diweddar Llywodraeth Cymru ar wrth-hiliaeth a LGBTQ+. 

Mae sefydlu CTER yn garreg filltir hynod arwyddocaol. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymgysylltu â CTER a Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud CTER yn llwyddiant, i golegau, i ddysgwyr, ac i’r sector ôl-16 cyfan, gyda dysgu gydol oes ac addysg i bawb yn ganolog iddo. Rydym yn hyderus bod gennym gyda’n gilydd yr arbenigedd i wneud y Comisiwn yn llwyddiant arloesol. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru 

Datganiad Ysgrifenedig: Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil – Penodi’r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd 
22 Rhagfyr 2022 

Datganiad Ysgrifenedig: Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (Cychwyn Rhif 1) 2022 
13 Rhagfyr 2022 

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk    

Jamie Adair, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus 
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.