Cyfnod cyffrous ar gyfer Cynllun Cymraeg Gwaith addysg bellach

Cymraeg Gwaith Logo.png

Mae ColegauCymru yn falch o gadarnhau y bydd cynllun llwyddiannus Cymraeg Gwaith, sy’n datblygu sgiliau Cymraeg darlithwyr, ymarferwyr addysg ac aseswyr mewn colegau addysg bellach yn parhau i'w seithfed flwyddyn. 

Mae’r cynllun, a ariennir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, bellach yn cefnogi 400 o staff ar draws 11 coleg yn flynyddol ac yn cyfrannu at darged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i datblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cydlynir y Cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Bellach ac Addysg Uwch gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth â CholegauCymru. Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rheoli a chydlynu’r cynllun yn uniongyrchol o’r 1af o Ebrill 2023 ac fe fydd yn gyfle i’r cynllun Cymraeg Gwaith ddod yn rhan o waith addysg bellach y Coleg Cymraeg. 

Mae trafodaethau ar waith i barhau i ddatblygu’r ddarpariaeth mewn ffordd strategol, gyda ffocws ar barhad y cynllun Cymraeg Gwaith+, digwyddiadau i ddysgwyr a chynlluniau sgwrsio Siarad wedi teilwra ar gyfer sectorau penodol o fis Ebrill 2023. 

Bu llwyddiant hefyd yng nghynllun peilot newydd, Cymraeg Gwaith+, a ariennir hefyd gan y Ganolfan. Mae'r cynllun hwn yn helpu i gynyddu hyder staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae’r ail garfan o staff Cymraeg Gwaith+ wrthi’n cwblhau eu cwrs 10 wythnos ar hyn o bryd ac rydyn ni’n bwriadu cynyddu’r ddarpariaeth yma ynghyd â datblygu syniadau newydd o Ebrill 2023. Rydyn ni'n awyddus i ddarparu cyfleoedd i ddarlithwyr ddatblygu hyder er mwyn gallu defnyddio’r sgiliau yma gyda dysgwyr yn y colegau sy’n cyd-fynd gyda’n nod ehangach o ddarparu cyfleoedd dysgu Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-16 yng Nghymru. 

Dywedodd Prif Weithredwr Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Ioan Matthews, 

“Rydym yn falch i weld llwyddiant parhaus y cynllun Cymraeg Gwaith yn cefnogi staff addysg bellach i ddatblygu eu sgiliau iaith. Mae’r cynllun hefyd yn annog fwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith mewn ffyrdd ymarferol yn y gweithle.” 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru David Hagendyk, 

“Mae hi’n gyfnod cyffrous ar gyfer gwella sgiliau iaith Gymraeg staff yn y sector, gyda chynllun Cymraeg Gwaith yn gweld cynnydd blynyddol mewn momentwm. Er na fydd ColegauCymru yn gyfrifol am rheolaeth y cynllun, rydym yn parhau i fod yn aelod brwdfrydig o Fwrdd Strategol ôl 16 Y Coleg gan chwarae ein rôl i sicrhau bod dysgwyr addysg bellach yn cael y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg” 

Mae ColegauCymru yn ymrwymo i barhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid i sicrhau pob cyfle phosib i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein colegau addysg bellach. Fe fydd Rheolwr Prosiect Cynllun Cymraeg Gwaith ColegauCymru, Nia Brodrick, yn symud draw i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol o 1af Ebrill 2023. 

Gwybodaeth Bellach 

Nia Brodrick, Rheolwr Prosiect Cymraeg Gwaith 
Nia.Brodrick@ColegauCymru.ac.uk 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.