Dysgu wyneb yn wyneb mewn colegau i ddechrau o 15 Mehefin

Mae ColegauCymru yn croesawu datganiad heddiw gan y Gweinidog Addysg yn cadarnhau y bydd darpariaeth dysgu wyneb yn wyneb mewn sefydliadau addysg bellach yn dechrau o 15 Mehefin.

Rhoddir mynediad â blaenoriaeth i ddysgwyr fydd angen asesiadau trwydded i ymarfer a’r dysgwyr hynny yr ystyrir hwy fel bod yn fregus/difreintiedig.

Mae ColegauCymru, sy'n cynrychioli tri ar ddeg o golegau, wedi gweithio'n agos gyda'r undebau llafur ar y cyd a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i sicrhau bod diogelwch dysgwyr a staff wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wneir wrth i ni gynllunio ar gyfer ailgyflwyno darpariaeth dysgu wyneb yn wyneb. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth iddynt baratoi i gyhoeddi canllawiau i gefnogi sefydliadau addysg bellach ar reoli eu cyfleusterau a'u trefniadau logistaidd, gan gynnwys adeiladau, adnoddau, glanhau a chludiant. Disgwylir i'r canllawiau yma gael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol ColegauCymru

“Mae nifer o heriau o'n blaenau o hyd a bydd angen i'r union fodel o ddarparu addysg bellach addasu yn y tymor byr, canolig a hir. Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth â'r undebau a Llywodraeth Cymru y gellir cwrdd â'r heriau hyn a thrwy roi lles ac anghenion y dysgwyr wrth galon yr hyn a fu ac a fydd yn parhau i fod yn broses benderfynu anodd.”

Datganiad i'r Wasg y Gweinidog Addysg:
Dod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.