Colegau addysg bellach yn arwain y ffordd ar gyfer dyfodol prentisiaethau

Apprentices working on a car.png

Mae ColegauCymru o’r farn bod cadarnhad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y sector dysgu seiliedig ar waith (WBL) dan arweiniad addysg bellach yn hanfodol i gefnogi adferiad economaidd Cymru ôl-Covid. 
  
Cyhoeddwyd manylion Cytundeb Fframwaith Rhaglen Gomisiynu Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ar 19 Ebrill 2021, gydag aelodau ColegauCymru Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Caerdydd a’r Fro, Grŵp NPTC, Coleg Sir Benfro, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai yn cyfrif am 6 o'r 10 darparwr i ennill cytundebau. 
  
Trwy ddysgu seiliedig ar waith, bydd y Rhaglen Brentisiaeth yn cyflwyno'r sgiliau sy'n angenrheidiol i unigolion gychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus. Ar yr un pryd, bydd cyflogwyr yn elwa o bobl fedrus ac addas i helpu i ddiwallu anghenion eu busnesau ac economi Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro, sy'n cadeirio Grŵp Strategol WBL ColegauCymru,

  “Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru a’i buddsoddiad yn y sector Dysgu Seiliedig ar Waith. Bydd y cyllid yn cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar ddysgwyr, colegau addysg bellach a'r cymunedau lleol y maent yn gweithredu ynddynt, ond ar hefyd ar allu economi Cymru i adfer ac ailadeiladu yn dilyn pandemig Covid19." 
  
“Gyda mwyafrif y ddarpariaeth brentisiaeth yn y dyfodol yn cael ei dyrannu i golegau addysg bellach, gall y sector barhau i fod yn bwynt penodol ar gyfer darpariaeth o’r ansawdd uchaf ar gyfer unigolion a busnesau sydd am wella sgiliau eu gweithlu. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar ein llwyddiant presennol.” 
  

Mae colegau addysg bellach yng Nghymru yn sefydliadau angor yn eu cymunedau ac mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â'r Fframwaith newydd, yn anad dim oherwydd eu profiad helaeth, ond hefyd gan fod y seilwaith cynhwysfawr ar gyfer cyflenwi eisoes ar waith. Bydd y Rhaglen Brentisiaeth flaenllaw hon a ddarperir gan y sector addysg bellach yn caniatáu i ddysgwyr ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle a fydd yn eu paratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol. 
  
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru Kelly Edwards,

“Mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru yn amlwg yn cydnabod gwerth buddsoddi yn y Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith. Bydd yn hanfodol sicrhau buddsoddiad digonol a pharhaus i ganiatáu i golegau addysg bellach gynnal ac ehangu eu darpariaeth." 


Mae'r Fframwaith newydd yn canolbwyntio ar drefnu a chodi lefel y farchnad sgiliau sydd wedi'i chynllunio i ddiwallu anghenion cyflogwyr gyda system sy'n ymatebol i newidiadau mewn diwydiant, yn enwedig yn y sectorau sy'n sbarduno twf a ffyniant. 
  
Bydd y Fframwaith yn cychwyn ar 1 Awst 2021 a bydd yn para am 4 blynedd tan 31 Gorffennaf 2025.


Gwybodaeth Bellach

Llywodraeth Cymru - GwerthwchiGymru 
Apprenticeships Commissioning Programme Wales Framework Agreement 
19 Ebrill 2019 

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.