Colegau Addysg Bellach yn barod am newid #NewidHinsawdd

Bydd llawer o golegau Addysg Bellach yn cymryd rhan mewn streic newid hinsawdd fyd-eang heddiw (20 Medi 2019), cyn uwchgynhadledd hinsawdd frys y Cenhedloedd Unedig. Mae'r streic wedi'i hysbrydoli gan Greta Thunberg, actifydd amgylcheddol 16 oed o Sweden.

Un o’r colegau sy’n cymryd rhan yw Coleg y Cymoedd, lle “ymgasglodd cannoedd o ddysgwyr, gweithwyr addysg ac aelodau undeb ar bedwar campws y coleg i ddangos eu cefnogaeth i'r ymdrech fyd-eang i dorri allyriadau carbon 45% dros y degawd nesaf”. Diolchodd Karen Phillips, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg y Cymoedd, i ddysgwyr a staff am eu cyfraniadau.

Mewn ymateb, fe wnaeth Vikki Howells AC trydaru,

“Mae’n bositif gweld streiciau lleol yn digwydd, gan gynnwys ymdrechion Coleg y Cymoedd a mwy.”

Ymunodd Grwp NPTC â'r cyfryngau cymdeithasol hefyd,

“Does dim Planed B. Dyma’r unig un sydd gennym, ac mae’n rhaid i ni ymladd drosti. Ar Fedi 20-27, rydym yn cefnogi #StreicyrHinsawdd i wneud yn siŵr bod ein harweinwyr yn gwrando ar ein galwadau am weithredu brys ar yr hinsawdd NAWR.” 

Mae Coleg Pen-y-bont yn cefnogi myfyrwyr a staff i ddysgu mwy am newid yn yr hinsawdd a sut y gallant oll wneud gwahaniaeth, “Gadewch i ni ddangos i'r byd bod #ColegPenybont yn barod am newid”.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan Argyfwng Hinsawdd yn ddiweddar a byddem yn annog pob coleg i ystyried sut y gallant godi ymwybyddiaeth o’r angen brys i bawb weithredu. Mae ColegauCymru yn elusen sy'n canolbwyntio ar anghenion y genhedlaeth o ddysgwyr presennol a'r dyfodol, mae'n rhan o'r rheswm cawsom ein sefydlu. Rydym yn gwybod bod gennym lawer i'w ddysgu gan bobl ifanc o ran cydnabod bod rhaid i ni weithredu ar newid yn yr hinsawdd ar frys."

Llun: Coleg y Cymoedd

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.