Colegau addysg bellach i symud i ddarpariaeth ddysgu ar-lein am gyfnod estynedig

Female learner with laptop.jpg

Ymhellach i gyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru y bydd ysgolion uwchradd a cholegau Cymru’n symud i addysgu a dysgu ar-lein o ddydd Llun 14 Rhagfyr, mae colegau addysg bellach wedi dod ynghyd i gadarnhau cyfnod estynedig darpariaeth o bell. 

O ddydd Llun, ac am yr wythnos sy'n weddill o dymor yr hydref (tan ddydd Gwener 18 Rhagfyr), bydd dysgu ac addysgu yn symud i ddarpariaeth ar-lein ac yn parhau i'r flwyddyn newydd am y cyfnod o ddydd Llun 4 Ionawr hyd at ddydd Gwener 8 Ionawr. 

Dysgwyr bregus 
Bydd colegau yn penderfynu sut y byddant yn parhau i gefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed yn seiliedig ar eu hanghenion penodol. Gall hyn olygu y gellid disgwyl i rai dysgwyr fynychu'r coleg er mwyn sicrhau cefnogaeth ychwanegol. 

Asesiadau 
Er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar addysg dysgwyr, bydd asesiadau ar gyfer cymwysterau technegol, galwedigaethol a chyffredinol a drefnir yn ystod yr amser hwn ac yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol, yn parhau i gael eu cynnal. Lle bo modd, bydd asesiadau'n cael eu haildrefnu. Anogir dysgwyr a staff i gysylltu’n uniongyrchol â'u coleg priodol ar gyfer arweiniad a chefnogaeth bellach. 

Staff coleg heb y gallu i weithio o gartref 
Disgwylir i staff nad ydynt yn gallu gweithio o bell barhau i fynychu'r coleg i gyflawni eu  dyletswyddau yn ystod y cyfnod hwn. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae pandemig Covid19 yn parhau i godi nifer o heriau i’r sector addysg. Rydym yn cefnogi cyhoeddiad y Gweinidog i symud dysgu ac addysgu i ddarpariaeth ar-lein fel rhan o'r ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiad Coronafeirws. Fel bob amser, iechyd a diogelwch y dysgwyr, staff a'u teuluoedd estynedig yw ein blaenoriaeth, a byddwn yn cefnogi ymdrechion i'r perwyl hwn. Mae'n anochel hefyd y bydd rhaid i addasiadau pellach ddigwydd i addysgu ac asesu wrth i'r aflonyddwch barhau." 

Disgwylir ar hyn o bryd y bydd darpariaeth wyneb yn wyneb yn ailgychwyn o ddydd Llun 11 Ionawr. Bydd mesurau diogelwch yn parhau i unrhyw ddysgwr neu aelod o staff pe bai angen iddynt, mewn amgylchiadau cyfyngedig, fynychu'r coleg. 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
Ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' 
10 Rhagfyr 2020 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.