Colegau addysg bellach yn rhybuddio am gyfnod anodd o'u blaenau wrth i'r Canghellor ddatgelu Datganiad yr Hydref

numbers-money-calculating-calculation-3305.jpg

Wrth i’r Canghellor gyhoeddi Datganiad Hydref, mae ColegauCymru heddiw wedi rhybuddio am gyfnod anodd o’n blaen, a’r angen i fuddsoddi mewn colegau i gynorthwyo adferiad economaidd.

Mae’r sector yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan y Canghellor o bwysigrwydd sgiliau a chyfleoedd i bobl ifanc, ond yn rhybuddio bod angen i hyn gael ei gyfateb gan ymrwymiad i fuddsoddi mewn addysg bellach. Wrth i golegau barhau i ddelio â chanlyniadau pandemig byd-eang digynsail, yn ogystal ag argyfwng ynni gyda chostau ar fin codi wyth gwaith, a phrisiau cynyddol bwyd a deunyddiau, mae'n hollbwysig cydnabod gwerth buddsoddi mewn addysg bellach i rymuso ein hadferiad.

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable, 

“Colegau yw’r cogiau allweddol ym mheirianwaith adferiad economaidd, ac mae sicrhau bod gennym ni fuddsoddiad cynaliadwy yn ein colegau yn hollbwysig i’n galluogi i lywio’r cyfnod ariannol heriol hwn, ac i barhau i ddarparu addysg o’r radd flaenaf. Mae’n bwysig cydnabod y bydd buddsoddi mewn addysg bellach yn cefnogi adferiad economaidd yn uniongyrchol. Mae colegau eisoes yn delio â chostau uwch sylweddol, ac mae angen pecyn ariannu priodol a chynaliadwy arnynt i barhau i wneud hyn.”

Mae ColegauCymru yn adrodd bod costau ynni cynyddol yn cael effaith sylweddol ar gyllidebau gweithredol, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y blynyddoedd i ddod. Disgwylir i gostau trydan cyfun ar draws y sector godi o tua £5.8m yn 2021/22 i £9.1m yn 2022/23 ac ymhellach i £15.3m yn 2023/24. Yn yr un modd, disgwylir i godiadau nwy neidio o tua £2.5m yn 2021/22 i £3.7m yn 2022/23 gyda chynnydd pellach i £6.7m yn 2022/24. Bydd yn hanfodol cefnogi'r sector i gwrdd â'r costau cynyddol hyn.

Mae ein colegau yn ddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gydag adferiad ôl-Covid. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod colegau’n cael y cyllid sydd ei angen arnynt, o’r £1.2bn a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru heddiw. Bydd colegau ledled Cymru yn parhau i weithio i ddarparu addysg o’r radd flaenaf, i gefnogi cymunedau ac economi gref, ac i adeiladu dyfodol disglair i’n dysgwyr ôl-16.

Gwybodaeth Bellach 
Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.