Colegau addysg bellach yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu

Ar 8fed Tachwedd, cyfarfu Colegau AB o bob rhan o Gymru i rannu arfer effeithiol wrth ddatblygu a chyflwyno'r cwricwlwm Sgiliau Byw'n Annibynnol ôl-16 newydd. Nod ‘Atebion Creadigol SBA’ yw newid y ffordd y mae AB ​​yn gweithio gyda dysgwyr yn y ddarpariaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol.

Dechreuodd Anne Evans, arweinydd y prosiect, trwy ddiweddaru ar fanylion cyflwyno'r cwricwlwm Sgiliau Byw'n Annibynnol newydd ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu sy'n canolbwyntio ar bedair colofn ddysgu; annibyniaeth, iechyd a lles, cyflogadwyedd a chymuned. Nod y prosiect yw datblygu a chyhoeddi pecyn cymorth Canllawiau Cwricwlwm a phrosesau hunanasesu ar gyfer Cymru.

Dywedodd y cynrychiolwyr fod cyflwyniad Richard Tither, AEM Estyn, oedd un o rannau mwyaf defnyddiol y gynhadledd. Pwysleisiodd bwysigrwydd proses onest a hunanfeirniadol o ystyried yr effaith i ddysgwyr a gofyn y cwestiwn, ‘beth yw’r ots?’ wrth fesur cynnydd a gwerthuso gwelliant. Cysylltodd Mr Tither hyn â diweddariad ar fframweithiau a safonau Estyn sy'n berthnasol ar gyfer gwaith Ôl-16 gyda dysgwyr ag anawsterau dysgu.

Yn ystod y diwrnod, cafodd pob coleg gyfle i arddangos eu gwaith, gofyn cwestiynau ac edrych trwy adnoddau sydd wedi'u datblygu. Yn ystod amseroedd egwyl, roedd cynrychiolwyr yn gallu gwylio clipiau fideo byr yn arddangos arfer effeithiol a gynhyrchwyd fel rhan o'r prosiect.

Yn y prynhawn, diweddarodd Chris Denham, Arweinydd Trawsnewid ADY AB, gynrychiolwyr ar ddatblygiad Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu ac Addysg Ychwanegol (Cymru) 2018. Cyflwynodd ardal ar-lein lle cynhelir gwybodaeth ac adnoddau am drawsnewid ADY ac Atebion Creadigol SBA.

Roedd y gynhadledd yn gyfle i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu ffyrdd i ddilyn cynnydd dysgwyr ac i fesur ansawdd, yn ogystal â dathlu canlyniadau'r prosiectau yr oedd colegau wedi cymryd rhan ynddynt. Mae cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, Estyn ac uwch reolwyr y colegau AB wedi bod yn hanfodol ac yn rhoi gobaith i'r sector ar gyfer y dyfodol.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.