Pumed Cylch Prosiect Cymraeg Gwaith yn Cychwyn

Website banner - adult learners.png

Dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ColegauCymru sy'n cydlynu’r prosiect Cymraeg Gwaith ar gyfer y sector Addysg Bellach ar y cyd gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Wrth i’r flwyddyn academaidd newydd agosáu, mae’n gyfle i edrych ar y cynlluniau fydd ar waith yn y colegau eleni. Un o’r rhain, sydd bellach yn y bumed cylched yw’r Cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Bellach.

Ers y flwyddyn beilot yn 2017, mae’r cynllun wedi cyrraedd y nod yn gyson, wrth roi cyfle i staff mewn colegau addysg bellach, gyda phwyslais ar staff academaidd, wella eu sgiliau Cymraeg a dwyieithog. 

O ddechrau gyda 185 o ddysgwyr ar gyfer y cynllun peilot, eleni mae targed uchelgeisiol gyda’r sector o gynnig cyfle i 400 o staff ddysgu Cymraeg drwy’r cynllun. 

Modd newydd o ddysgu

Eleni mae cyfle gan staff addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith (DSW) y colegau fanteisio ar fodd newydd o ddysgu, sef trwy ddefnyddio’r cwrs hunan astudio Cymraeg Gwaith. Mae’r cwrs yma, sydd bellach ar gael ar lefel Mynediad a Sylfaen, yn gyfle i ddysgwyr ddysgu Cymraeg mewn modd hyblyg, heb orfod glynu at amserlen y gweithle.

Dysgwyr yn parhau blwyddyn ar ôl blwyddyn

Rhaid cydnabod gwaith yr holl diwtoriaid Cymraeg Gwaith wedi lleoli yn yr 11 coleg sy’n rhan o’r cynllun. Mae’r ffaith bod cymaint o’r dysgwyr yn dewis parhau ar y cynllun blwyddyn ar ôl blwyddyn, gan symud drwy lefelau’r cynllun yn dyst i’w gwaith.

Ymunwch

Os ydych chi'n gweithio mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, manteisiwch ar y cyfle i fod yn rhan o'r prosiect hwn trwy gysylltu â'ch adran Adnoddau Dynol neu'r Hyrwyddwr Dwyieithog yn eich coleg. 

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Nia Brodrick; nia.brodrick@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.