ColegauCymru yn croesawu cyhoeddiad o system ‘sianelu’ o weithredu’r Ddeddf ADY

Celebration.jpg

Mae ColegauCymru wedi croesawu datganiad yr wythnos hon gan y Gweinidog Addysg mewn perthynas â’r cynlluniau ar gyfer gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 (y Ddeddf ADY) ar gyfer pobl ifanc ôl-16.

Bydd system ‘sianelu’ ar gyfer gweithredu’r Ddeddf ADY ôl-16. Bydd hyn yn caniatáu i golegau drosglwyddo i’r system newydd hon yn y ffordd orau i gefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd Arweinydd Trawsnewid ADY ar gyfer Addysg Bellach ColegauCymru, Chris Denham,

“Mae’r cyhoeddiad yn newyddion cadarnhaol i sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol fel ei gilydd. Mae colegau wedi bod yn gweithio'n galed dros y blynyddoedd diwethaf i wneud gwelliannau i'r ddarpariaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu anableddau. Maent yn parhau i ddatblygu eu harbenigedd i weithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn sicrhau bod holl ddysgwyr yn cael y cyfle i gyflawni.”

Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru

Datganiad Ysgrifenedig: Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 ar gyfer y Sector Ôl-16

28 Mawrth 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.