Cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer Rhwydwaith Addysgu a Dysgu

pexels-jopwell-2422293.jpg

Mae ColegauCymru’n croesawu gwariant gan y Gweinidog Addysg i gefnogi Rhwydwaith Dysgu Proffesiynol ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru.

Pwrpas y Rhwydwaith yw cefnogi dysgu proffesiynol i wella addysgu, dysgu ac asesu ar draws addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru Kelly Edwards,

“Rydym yn falch ein bod wedi sicrhau cyllid ar gyfer y Rhwydwaith Addysgu a Dysgu Ôl-16. Bydd hwn yn  fforwm i ddarparu a chyfnewid arfer gorau, i hwyluso cydweithredu pellach ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru ac i gryfhau addysgeg ddigidol.”

Bydd y Rhwydwaith yn adrodd i'r Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd a bydd yn cyfarfod bob tymor, a chynhadledd flynyddol arall/digwyddiad dysgu proffesiynol.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.