Colegau addysg bellach yn dathlu gwerth addysg gydol oes yn ystod Wythnos Addysg Oedolion

Screenshot 2020-10-15 at 11.38.37 am.png

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gefnogi Wythnos Addysg Oedolion a gynhelir yr wythnos hon, 17 - 21 Hydref 2022. Mae'r wythnos wedi'i chynllunio i ddangos effaith cadarnhaol dysgu gydol oes, ac i hyrwyddo’r cyfleoedd a’r ddarpariaeth sydd ar gael i oedolion ledled Cymru.

Gwireddu dysgu gydol oes i bawb

Mae ColegauCymru yn credu y dylai pawb yng Nghymru gael mynediad a chyfle i ddysgu drwy gydol eu hoes. Mae’r sector eisoes yn gwneud cymaint, gan gyflawni ar draws ystod eang o bynciau a lefelau, gan gefnogi dysgwyr – rhai ohonynt yw’r oedolion mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, i gyflawni eu potensial. Ni ddylai dysgu fod yn rhywbeth sy’n gorffen pan fyddwn yn gadael addysg ffurfiol.

Pwysigrwydd addysg oedolion mewn byd ôl-Covid

Ni fu gwerth y sector erioed yn bwysicach nag y mae nawr, wrth inni geisio ailadeiladu economi Cymru yn dilyn pandemig Covid19. Mae gweithlu medrus yn hanfodol i sicrhau economi sy’n ffynnu yng Nghymru. Bydd dysgu ac uwchsgilio oedolion yn parhau i fod yn rhan allweddol o ailadeiladu ein heconomi ar ôl Covid. Mae manteision dysgu gydol oes yn amrywiol a llawer - o gyfrannu’n gadarnhaol at elfennau fel llesiant, pwrpas a chyflawniad i fynd i'r afael â materion cymdeithasol fel unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae'r buddion hyn yn eu tro yn rhoi'r offer i gymunedau i ffynnu. Mae sgiliau'n helpu pobl i mewn i waith ac i wella yn y gwaith sy'n caniatáu i ni i gyd gadw i fyny â byd sy'n newid a'n gweithleoedd sydd yn gyflym yn trawsnewid. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru Kelly Edwards,

“Rydyn ni'n gwybod bod gan addysg oedolion y potensial i newid bywydau ac erbyn hyn yn fwy nag erioed mae'n bwysig bod gan bobl gyfle i ailhyfforddi ar gyfer gwaith ac i ddysgu rhywbeth newydd i helpu eu hiechyd a'u lles.” 

“Ers amser, mae'r sector addysg bellach wedi hyrwyddo addysg oedolion a'i werth nid yn unig i'r economi ond ar lefel gymdeithasol ac unigol hefyd. Rydym yn croesawu Wythnos Addysg Oedolion fel cyfle i ddathlu cyflawniadau dysgwyr ledled Cymru ac i ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod buddion dysgu.” 

Cymryd Rhan

Mae yna ystod o ffyrdd i gymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion, boed hynny trwy roi cynnig ar sesiwn flasu ar sgiliau digidol, celf a chrefft, neu ymwybyddiaeth ofalgar, er enghraifft, neu ymrwymo i gwrs byr. Mae'r ystod o feysydd yn helaeth. Mae'n wych gweld cymaint o golegau addysg bellach yn cymryd rhan ac yn arddangos yr hyn sydd ganddyn nhw i'w gynnig i oedolion ledled Cymru.

Dolenni defnyddiol:
Newid Dy Stori - Wythnos Addysg Oedolion
Llywodraeth Cymru: Cymru’n Gweithio - Wythnos Addysg Oedolion

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.