Addysg Bellach yn cael ei gydnabod yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd Jiwbilî Platinwm y Frenhines

Students sitting on a college wall.jpg

Roedd ColegauCymru yn falch iawn o weld staff yn y sector addysg bellach yn cael eu gwobrwyo am eu cyfraniadau yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines, gyda Siân Holleran, ColegauCymru, a Kay Martin, Coleg Caerdydd a’r Fro yn derbyn MBEs.

Hoffem longyfarch ein Rheolwr Prosiect Rhyngwladol, Siân Holleran, am dderbyn MBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd Jiwbilî Platinwm y Frenhines am wasanaeth i addysg. Mae gwaith diflino Siân o fewn y sector addysg bellach yn gosod esiampl wirioneddol o ymrwymiad ac rydym mor falch ei bod wedi cael ei gwobrwyo am gyflawniad rhagorol hwn. Mae ei gwaith yn sicrhau bod myfyrwyr ledled Cymru yn cael mynediad at gyfleoedd sy’n newid bywydau i deithio, profi a thyfu trwy deithiau rhyngwladol.

Mae Siân bob amser wedi rhoi pwyslais cryf ar fanteision y rhaglenni hyn, hyd yn oed gyda’r heriau sydd wedi bod ar gyfer cynlluniau teithio a chyfnewid rhyngwladol yn ystod y degawd diwethaf gyda goblygiadau Brexit a’r pandemig Coronafeirws. Ymfalchïwn fel mudiad fod Siân yn rhan o deulu ColegauCymru, ac mae’n parhau i greu a datblygu cyfleoedd wrth i ni gychwyn ar ddwy fenter newydd gyda chynlluniau Taith a Turing.

Hoffem hefyd ddanfon ein llongyfarchiadau i Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro a Chadeirydd Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd ColegauCymru, sydd hefyd wedi derbyn MBE am wasanaethau i addysg yng Nghymru. Mae Kay hefyd yn Llywodraethwr mewn dwy ysgol uwchradd yn y rhanbarth; aelod o Fusnes yn y Gymuned, Bwrdd Arwain Cymru a darparwr arweiniol un o'r contractau dysgu seiliedig ar waith mwyaf yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro ColegauCymru David Price,

“Mae cydnabyddiaeth Siân yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn haeddiannol iawn. Gall teithio fod yn gyfle sy’n newid bywydau dysgwyr. I'r rhai mewn addysg bellach yn arbennig, gall newid bywydau a safbwyntiau; does neb wedi gwneud mwy i hyrwyddo hyn yn fwy na Siân a dylai ei gwaith diflino ysbrydoli eraill yn fawr.”

“Mae Kay Martin wedi gwneud cyfraniad diflino yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, gan chwarae rhan hynod ddylanwadol wrth drawsnewid addysg a hyfforddiant ar draws Prifddinas Cymru sy’n rhychwantu Addysg Bellach, Addysg Uwch, Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu Oedolion a Chymunedol ac Addysg Uwchradd.”

“Rydym yn danfon ein llongyfarchiadau cynhesaf i Siân a Kay.”

Gwybodaeth Bellach

Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin, yn derbyn MBE
8 Mehefin 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.