Canllawiau wedi eu cyhoeddi ar ail-ddechrau addysg bellach wyneb yn wyneb a dysgu seiliedig ar waith

Mae canllawiau ar gyfer ail-ddechrau darpariaeth wyneb yn wyneb ar gyfer addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith o 15 Mehefin bellach wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau polisi i sefydliadau addysg bellach (SAB) a darparwyr dysgu seiliedig ar waith annibynnol yng Nghymru ar reoli trefniadau dychwelyd dysgwyr a staff yn ddiogel i ddysgu wyneb yn wyneb.

Bwriedir i sefydliadau AB a darparwyr dysgu seiliedig ar waith ddefnyddio’r canllawiau hyn yn y cam cyntaf yn ystod ail hanner tymor haf 2020. Byddant yn cael eu diwygio a’u mireinio ar gyfer camau darparu dysgu y dyfodol o hydref 2020 ymlaen, mewn ymgynghoriad â’r sectorau.

Canllawiau:
Canllawiau ar Ailddechrau Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith Wyneb yn Wyneb

Cwestiynau Cyffredin:
Gwybodaeth am addysg bellach ac addysg uwch yn ystod y pandemig coronafeirws

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.