Colegau addysg bellach i gau i nodi angladd gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

candle.jpg

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd pob sefydliad addysg bellach ledled Cymru yn cau ar ŵyl y banc a ddatganwyd ar gyfer angladd gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Bydd colegau’n cau ddydd Llun 19 Medi 2022. Bydd yr ŵyl banc hon yn gweithredu yn yr un modd â gwyliau banc eraill a bydd yn caniatáu i unigolion, busnesau a sefydliadau eraill dalu teyrnged i’w Mawrhydi a choffáu ei theyrnasiad, wrth nodi diwrnod olaf y cyfnod o alar cenedlaethol. Disgwylir presenoldeb arferol yn y coleg drwy gydol y cyfnod galaru cenedlaethol, ac eithrio gŵyl y banc.

Cymeradwywyd y gorchymyn i’r angladd fod yn ŵyl banc gan y Brenin Siarl III ym Mhalas St. James yn San Steffan gan ei fod wedi’i ddatgan yn ffurfiol yn bennaeth y wladwriaeth.

Gwybodaeth Bellach

Canllawiau Llywodraeth Cymru
Galaru cenedlaethol: canllawiau i ddarparwyr addysg
12 Medi 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.