“Bydd mwy o’r un polisi ar addysg a sgiliau yn rhoi’r gweithlu di-waith cymwysedig gorau i Gymru erioed ei gael"

conwy 2.jpg

Heddiw mae ColegauCymru wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil annibynnol sy'n rhoi rhai safbwyntiau syfrdanol ar ddyfodol addysg bellach yng Nghymru. 

Yn 2019 comisiynodd ColegauCymru dîm annibynnol o ymchwilwyr o fri rhyngwladol ar draws ystod o feysydd i archwilio’r rôl y gallai addysg bellach ei chwarae yn nyfodol datblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru. Mae'r adroddiad canlyniadol Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru, sydd wedi’i addasu i fynd i'r afael â phandemig parhaus Covid19, yn dwyn rhai canfyddiadau heriol i'r amlwg. 
 
Mae'r Adroddiad yn ymdrin â themâu gwell dinasyddiaeth, galwedigaethau a chymunedau busnes. Mae'r camau a awgrymir yn seiliedig ar sut y gallai addysg bellach ddefnyddio ei arbenigedd addysgol a sefydliadol i gynorthwyo i ddiwygio'r galw am lafur. Mae angen penodol am rôl fwy gweithredol wrth adeiladu galwedigaethau newydd ac i fod yn chwaraewr gweithredol wrth ddod â'r holl chwaraewyr perthnasol at ei gilydd i helpu i adfywio a chryfhau cymunedau busnes lleol. 

Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad, yr Athro John Buchanan o Brifysgol Sydney,

“Mae yna lawer i ymfalchïo ynddo yn system Addysg Bellach Cymru. O ran y byd Saesneg ei iaith, mae addysg bellach yng Nghymru mewn siâp da. Yn yr un modd, mae yna rai busnesau bach cymdeithasol ymwybodol a chraff yn fasnachol. Ond mae angen i ni gydnabod bod y busnesau bach a chanolig ‘golau disglair’ hyn yn ynysoedd rhagoriaeth mewn môr o gyffredinedd. Tra ein bod ni wedi arfer clywed mai busnes yw'r ateb, mae'n bryd i ni gydnabod bod busnes yn rhan o'r broblem mewn gwirionedd.” 

Ychwanegodd y cyd-awdur arall, yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion,

“Cymru yw prifddinas bwriadau da’r byd, ond mae angen i ni symud y tu hwnt i eiriau cynnes i weithredu. Mae argyfwng Covid19 yn cyflymu newidiadau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru sydd wedi bod yn datblygu ers dad-ddiwydiannu'r 1980au. Codir addysg a sgiliau yn barhaus fel atebion i'r problemau sy'n ein hwynebu. Ond er nad oes datrysiad heb sgiliau, nid sgiliau yn unig yw'r ateb. Yn y pen draw, bydd mwy o'r un polisi ar addysg a sgiliau yn rhoi'r gweithlu di-waith cymwysedig gorau i Gymru erioed ei gael i ni”. 


Ychwanegodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey ymhellach,

“Er bod rhywfaint o’r adroddiad yn creu darllen heriol, mae yna lawer o le i fod yn optimistaidd. Gyda'r weledigaeth, y gefnogaeth a'r cyllid priodol, gall y sector addysg bellach yng Nghymru fod yn offeryn hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i ailadeiladu ein heconomi wrth helpu cymunedau i ffynnu ac unigolion i lwyddo”. 

Gwybodaeth Bellach

Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru
10 Chwefror 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.