Dysgwrdd yn ysbrydoli addysgu arloesol mewn Adeiladu addysg bellach

TeachMeet Website Banner.png

Ym mis Chwefror 2022, croesawodd Rhwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru y trydydd mewn cyfres o Ddigwyddiadau Dysgwrdd llwyddiannus, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cydweithwyr yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, i rannu enghreifftiau o arfer da. Mae’r digwyddiadau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cefnogi cyfnewid gwybodaeth ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru. 

Roedd naws adeiladu i'r digwyddiad hwn ac roeddem yn falch iawn o groesawu siaradwyr gwych! 

Agorodd Gareth Wyn Evans o Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) y sesiwn gyda manylion am dechnoleg wych CONVERT, offeryn hyfforddi ac ymgysylltu o’r radd flaenaf sy’n trawsnewid y broses o ddarparu cymwysterau adeiladu. 

Siaradodd Katie Morrison, Uwch Reolwr Safle ar gyfer Grŵp Kier a chyn ddysgwr Coleg Sir Benfro, am ei phrofiad o symud ymlaen â’i hastudiaethau mewn addysg bellach a mynd ymlaen i gyflawni gyrfa lwyddiannus yn yr hyn sy’n parhau i fod yn sector sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion. 

Cafwyd mewnbwn gwerthfawr pellach gan gydweithwyr o Goleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Sir Benfro a Choleg Gŵyr Abertawe, a fu’n rhannu gwybodaeth ac awgrymiadau ar gyfres o bynciau gan gynnwys ymgysylltu â dysgwyr a manteision addysg ddwyieithog. 

Roeddem yn falch bod Chris Curtis o Goleg Sir Benfro, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Rhanbarthol Cymru Cymdeithas Penaethiaid Adeiladu Prydain (BACH), wedi cloi’r digwyddiad, gan ganmol ymdrechion cydweithwyr yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn ddwy flynedd heriol. Edrychodd ymlaen hefyd gan ddweud bod hwn yn gyfnod cyffrous i’r sector gyda llawer o newidiadau cyffrous eto i ddod i’r ffordd y darperir cymwysterau adeiladu yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. 

CONVERT your Teaching - Gareth Wyn Evans
In action! How I CONVERTed my teaching - Huw Thomas
Women in Contruction - Katie Morrison
Professional Learning Communities Project - Ian Lumsdaine
Student Behaviour and Engagement in a Construction College - Geraint Lloyd
Stretch and Challenge - Matthew Griffiths
Introducing Bilingualism in Construction - Wyn Williams
How Gower College is developing and delivering towards the ‘green’ agenda - Hannah Pearce

Wnethoch chi golli'r Digwyddiad? 

Os fethoch chi'r digwyddiad byw, gallwch chi wylio eto! 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.