Cymorth Swyddi Cymru: ColegauCymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru fyfyrio ar benderfyniad diweddar

Yng ngoleuni'r cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth mewn perthynas â chaffael y contract Cymorth Gwaith Cymru, dywedodd Dafydd Evans, Cadeirydd Fforwm Penaethiaid a Phrif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,

"Gan ymateb ar ran y sector Addysg Bellach, byddai ColegauCymru nawr yn gofyn i'r Llywodraeth Cymru i gymryd digon o amser i fyfyrio ar ei phenderfyniad diweddar i atal y broses gaffael ar gyfer Cymorth Cyflogadwyedd yng Nghymru. Mae'r sector yn deall bod hwn yn benderfyniad anodd i’w wneud, ac o ganlyniad credwn y dylai oedi wrth ddatblygu ymarferion caffael yn y dyfodol ym maes cyflogadwyedd a sgiliau, er mwyn dysgu'r gwersi o'r ddau ymgais a fethodd i gontractio gwasanaethau ar gyfer cymorth cyflogadwyedd."

Gan adlewyrchu ar y datganiad, ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Trwy’r rhaglenni presennol, mae Colegau a darparwyr hyfforddiant wedi gweithio’n dda gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi unigolion sy’n aml yn cael eu hanwybyddu ac sydd bellaf o hyfforddiant a chyflogaeth. Rydym yn cydnabod mai bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau y gall hyn barhau, a byddem yn gwerthfawrogi cyfle i drafod sut y gall hyn ddigwydd wrth symud ymlaen. Ar hyn o bryd, credwn y gellir cyflawni hyn orau trwy roi rhaglenni presennol ar sylfaen sicr a chydweithio i gyflwyno rhaglenni newydd pan fydd yr amser yn iawn. "

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.