Pontio Teg tuag at Sero Net Cymru

net zero.jpeg

Ymateb Ymgynghoriad

Llywodraeth Cymru
Dyddiad Cyflwyno: 15 Mawrth 2023

Amlygodd ColegauCymru bwysigrwydd Pontio Teg er mwyn sicrhau na ddylai neb wynebu unrhyw rwystrau o ganlyniad i ddewis iaith, anabledd, natur wledig, na’u cefndir economaidd – dylai pawb gael mynediad i’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i hyfforddi/ailsgilio fel rhan o Pontio Teg.

Ar hyn o bryd, mae darparu sgiliau sero net bron yn gwbl drafodiadol. Ar hyn o bryd, mae cyflogwyr yn defnyddio'r Cyfrifon Dysgu Personol i gyflawni eu hanghenion sgiliau uniongyrchol yn absenoldeb cynllun sgiliau sero net wedi'i wireddu'n llawn. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru, y sector AB, darparwyr hyfforddiant, a chyflogwyr yn cydweithio i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r swyddi a’r sgiliau y mae angen inni baratoi, uwchsgilio ac ailhyfforddi ein gweithlu ar eu cyfer, gyda llif clir o wybodaeth rhwng y llywodraeth, sector preifat a gweithwyr ar y sgiliau sydd eu hangen.

Yn yr un modd, dylai fod tegwch ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh). Mae gan fusnesau bach a chanolig y potensial i fod yn ystwyth a symud yn ôl gofynion y sector, fodd bynnag mae’n hanfodol eu bod yn deall pa sgiliau y dylent fod yn eu mynnu gan AB. Mae cydweithwyr yn y sector wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru wneud darn o waith gyda rhanddeiliaid diwydiant ac addysg i nodi beth fydd y swyddi sero net craidd yn y dyfodol, gan gynnwys amserlen ar gyfer sut y gallai datblygiadau a newidiadau ddigwydd yn y dyfodol.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.