Etholwyd Lisa Thomas yn Is-Gadeirydd Bwrdd ColegauCymru

Meeting Table.jpg

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful, wedi’i hethol yn Is-Gadeirydd Bwrdd ColegauCymru. 

Bydd Lisa, a benodwyd yn Brif Weithredwr a Phennaeth Coleg Merthyr Tudful yn 2018, yn cymryd lle Prif Weithredwr a Phennaeth Coleg Penybont, Simon Pirotte, sydd wedi bod yn ei rôl ers Ionawr 2021.

Ymunodd Lisa â’r sector addysg bellach fel Pennaeth Cynorthwyol ym mis Medi 2012. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel athrawes hanes, mae Lisa’n elwa ar dros 25 mlynedd o brofiad o rolau arwain a rheoli o fewn addysg uwchradd ac addysg bellach a llywodraeth leol. Fel aelod o ColegauCymru, mae Lisa wedi cynrychioli’r sector mewn nifer o weithgorau Llywodraeth Cymru ac wedi chwarae rhan ddylanwadol wrth lunio polisi’r llywodraeth ar y sector addysg bellach yng Nghymru. Mae hi hefyd yn arolygydd cymheiriaid profiadol ESTYN. Yn fwy diweddar mae Lisa wedi gweithredu fel Cadeirydd Dros Dro ar gyfer Rhwydwaith Cyfarwyddwyr AD ColegauCymru a Phwyllgor Negodi AB Cymru (WNCFE). 

Dywedodd Lisa Thomas, 

“Rwy’n falch iawn o gael fy ethol i rôl Is-Gadeirydd Bwrdd ColegauCymru mewn blwyddyn sy’n parhau i fod yn heriol i’r sector. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr wrth i ni barhau i sicrhau’r cyfleoedd a’r cymorth gorau posibl i’n dysgwyr a’n staff.” 

Ychwanegodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey, 

“Rydym yn falch iawn o ethol Lisa i rôl yr Is-Gadeirydd. Mae ganddi brofiad helaeth yn y sector addysg bellach ac edrychwn ymlaen at ei chyfraniad gwerthfawr yn ystod ei chyfnod yn y swydd. 

Diolch o galon i Simon am ei waith dros y 12 mis diwethaf. Mae wedi chwarae rhan bwysig yn cefnogi a dirprwyo ar sawl achlysur, yn uchel iawn ei barch ac wedi bod yn ddylanwadol wrth gefnogi’r sector mewn meysydd allweddol.” 

Bydd Prif Weithredwr Coleg Gwent Guy Lacey yn parhau yn ei swydd fel Cadeirydd. 

Gwybodaeth Bellach 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.