Y Gweinidog Addysg yn ymweld â champws newydd Coleg Gwent

Jermey Miles Guy Lacey.jpg

Ddoe ymwelodd y Gweinidog Addysg newydd ei benodi â Pharth Dysgu Torfaen sydd newydd ei agor yng Nghwmbrân. 

Agorodd Parth Dysgu Torfaen ei ddrysau am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2021, yn dilyn oedi a achoswyd gan bandemig Covid19 ac mae'n rhan o Raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, sy'n darparu buddsoddiad tymor hir i ysgolion a cholegau i ddatblygu fel canolfannau ar gyfer dysgu ac i leihau adeiladau mewn cyflwr gwael. 

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Mr Jeremy Miles AS,

“Ymweliad gwych â Choleg Gwent y bore yma, a’r cyfle i gwrdd â dysgwyr a staff ac i glywed manylion y campws ar ei newydd wedd”. 

Wedi'i fodelu ar Barth Dysgu llwyddiannus Blaenau Gwent yng Nglynebwy, a'n cael ei reoli a’i redeg gan Goleg Gwent, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, mae'r campws yn disodli tair chweched dosbarth ysgol Saesneg yn y fwrdeistref ac mae'n enghraifft wych o ddarpariaeth addysg ôl- 16 yng Nghymru.  

Ychwanegodd Cadeirydd ColegauCymru a Phennaeth Coleg Gwent, Guy Lacey,

“Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych i groesawu ein Gweinidog Addysg newydd Jeremy Miles a dangos ein campws newydd iddo. Mae'n ofod rydyn ni'n falch iawn ohono ac rydyn ni'n falch o gynnig y cyfleusterau newydd gwych hyn i'n dysgwyr ar gyfer eu haddysg ôl-16." 

Mae Parth Dysgu Torfaen bellach yn gartref i holl addysg ôl-16 yn y fwrdeistref. Yn cynnig 32 o bynciau Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru, cymwysterau galwedigaethol lefel 2 a lefel 3 a nifer o gyrsiau addysg uwch ar lefel prifysgol, gan ddod ag addysg bellach a chyfleoedd dysgu rhagorol at ei gilydd i gyd o dan yr un to.  

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies ymhellach,

“Mae'n galonogol i'r Gweinidog newydd weld enghraifft o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud ar gyfer addysg ôl-16 yma yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i sicrhau bod pob dysgwr ôl-16 yn cael chwarae teg o ran eu haddysg, p'un ai trwy gymwysterau galwedigaethol a phrentisiaethau neu drwy lwybr academaidd."  
 

Gwybodaeth Bellach 

Llywodraeth Cymru 
Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21fed ganrif 
19 Gorffennaf 2019 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.