Mae angen gwneud mwy i gefnogi dysgwyr addysg bellach ar incwm isel yng Nghymru

pexels-pixabay-289737.jpg

Mae tua un o bob tri phlentyn yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi. Mae hyn yn 31% o blant, tua 190,000 o dan 19 oed. Mae’r ffigurau hyn yn llwm, ac mae lefelau tlodi’n parhau’n ystyfnig o uchel. Wrth i gymdeithas barhau i wella o effaith Covid19 a phwysau chwyddiant cynyddol, mae'r sector addysg bellach yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi'r rhai mewn cartrefi incwm is.

Mae Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk yn amlygu’r heriau sy’n wynebu dysgwyr a’r sector ehangach ar hyn o bryd ac yn manylu ar sut y gallwn gydweithio i helpu i leddfu’r pwysau.

Ym mis Mawrth eleni, cydnabu’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a thynnodd sylw at y ffaith bod bylchau cyrhaeddiad rhwng plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan dlodi a’u cyfoedion wedi gwaethygu. Amlinellodd hefyd ei ymrwymiad i fynd i'r afael â'r mater, gyda dull llywodraeth gyfan. O ystyried natur drawsbynciol tlodi, mae’r dull hwn yn un i’w groesawu. Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau ar adnewyddu’r Strategaeth Tlodi Plant i leihau tlodi plant, gan roi mesurau amrywiol ar waith i gefnogi teuluoedd, ond mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael ag effaith lefelau tlodi yng Nghymru.

Mae lleihau costau a chynyddu incwm teuluoedd yn hollbwysig fel bod plant a phobl ifanc yn cael digon o gymorth ariannol a materol ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnynt i ffynnu mewn addysg.

Mae pwysau cynyddol yr argyfwng costau byw wedi chwyddo'r heriau y mae dysgwyr yn eu hwynebu, yn enwedig ar gyfer y ddemograffeg economaidd-gymdeithasol is. Mae ffigurau gan Lywodraeth y DU yn awgrymu bod mwy o bobl ifanc 16-24 oed yn defnyddio banciau bwyd yn fwy nag unrhyw grŵp oedran arall.

Teimlir y materion hyn yn frwd ar draws y sector addysg bellach, a chodwyd y materion hyn gan Arweinydd Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith ColegauCymru a Phennaeth Coleg Sir Benfro mewn gwrandawiad Pwyllgor y Senedd fis Tachwedd diwethaf. Soniodd Dr Barry Walters am gostau cynyddol hanfodion bob dydd, gan gynnwys trafnidiaeth a bwyd, a’r effaith wanychol y mae’n ei chael ar ddysgwyr. Ychwanegodd fod dysgwyr yn dibynnu’n gynyddol ar Gronfa Ariannol Wrth Gefn y sector (FCF), gyda’r 12 mis blaenorol wedi gweld cynnydd sylweddol ar geisiadau i’r gronfa ariannu honno.

Disgrifiodd Dr Walters sut mae dysgwyr yn gorfod gwneud penderfyniadau cynyddol anodd yn seiliedig ar y cymorth sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd. Mae nifer sylweddol o ddysgwyr yn dewis peidio ag aros mewn addysg i ddatblygu’r set sgiliau i symud ymlaen i yrfaoedd ystyrlon a llwyddiannus ar gyfer enillion tymor byrrach cyflogaeth sgil isel â chyflog uwch.

Mae ColegauCymru yn croesawu’r newidiadau a wnaed yn ddiweddar i gefnogi unigolion sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Twf Swyddi Cymru a Mwy (JGW+). Mae’r newidiadau hyn wedi gweld cynnydd bychan yn y Lwfans Hyfforddi ar gyfer cyfranogwyr, a chyflwyniad cymorth ariannol i gynnig ‘pryd am ddim’ tra ar y rhaglen. Gan mai nod Rhaglen JGW+ yw cynorthwyo'r rhai sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf mewn cymdeithas, dylid cynnwys y math hwn o gymorth ymarferol mewn rhaglenni presennol a rhaglenni'r dyfodol.

Yr angen am gymorth ychwanegol

Er mwyn cael yr effaith fwyaf, credwn y dylai ffocws y llywodraeth fod ar:

  • Adolygu’r trothwy cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim a’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) Mae nifer sylweddol o ddysgwyr ychydig y tu allan i’r trothwy ac felly nid ydynt yn gymwys i gael cymorth LCA. Dylid hefyd ystyried meini prawf cymhwysedd megis plant lluosog o fewn y teulu.
  • Adolygu ar fyrder argaeledd cludiant a chostau bwyd am ddim neu â chymhorthdal Ar hyn o bryd mae rhai teuluoedd yn gorfod defnyddio'r LCA i sybsideiddio costau bwyd a chludiant. Bydd cymorth ychwanegol yn sicrhau bod taliadau LCA yn mynd yn uniongyrchol tuag at gostau addysg. Mae angen adolygiad o baramedrau trafnidiaeth hefyd.
  • Adolygu cymorth ariannol wrth gefn Wedi'i gynllunio i gefnogi dysgwyr mewn anawsterau ariannol a/neu sy'n debygol o adael addysg, mae colegau'n dibynnu fwyfwy ar y Gronfa Ariannol wrth Gefn. Mewn un coleg, roedd 56% yn fwy o geisiadau i FCF eleni. Mae'r galw am y cymorth hwn wedi ymestyn yn fwy diweddar nid yn unig o ddemograffeg economaidd-gymdeithasol is o ddysgwyr ond o enillwyr canol hefyd.

Edrych tua'r dyfodol

Wrth i ni edrych i'r dyfodol, mae colegau wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'r llywodraeth a sefydliadau eraill i gymryd camau i helpu i wrthbwyso effaith negyddol yr heriau ariannol llym sy'n wynebu cymaint o ddysgwyr. Gan weithio gyda’n gilydd, mae angen i ni wella’r addysg sydd ar gael ynghylch cyllidebu a gwasanaethau canslo dyledion, a darparu gwell cyfeirio at gymorth allanol. Mae nifer o golegau eisoes yn cynnig hybiau cyngor ariannol cymunedol gyda mynediad at wasanaethau cyngor ar ddyledion a chynghorwyr dyled cymwys, gydag eraill yn darparu hyfforddiant rheoli arian ar gyfer cynghorwyr myfyrwyr. Er bod colegau wrthi'n gweithio yn y maes hwn, mae mwy i'w wneud. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymell dysgwyr i aros mewn addysg Mae angen cymhellion ychwanegol i ddysgwyr o bob oed aros mewn addysg ôl-orfodol drwy'r cyfnod ariannol hynod heriol hwn. Mae rhai dysgwyr yn dewis gadael addysg, o blaid cymryd cyflogaeth â chyflog isel i gynnal eu hunain a'u teuluoedd. Gwyddom fod llawer o oedolion, wrth bwyso a mesur costau ariannol cymryd rhan mewn dysgu, yn gorfod blaenoriaethu rheoli costau byw dros eu haddysg.
  • Datblygu atebion dylunio cwricwlwm creadigol Mae colegau wedi ymrwymo i welliant parhaus i gynllun y cwricwlwm, a lle bo modd, gan roi hyblygrwydd i ddysgwyr, mae angen iddynt allu gweithio'n rhan-amser ochr yn ochr â'u hastudiaethau.
  • Lleihau'r risg o gamfanteisio Po fwyaf o bwysau sydd ar deulu, y mwyaf tebygol yw hi o ddioddef camfanteisio. Mae addysgu teuluoedd a staff ar y risg hon a chyfeirio cymorth yn hanfodol.
  • Nodi hyfforddiant pellach Gall staff cymorth a thiwtoriaid elwa ar hyfforddiant ar ba gymorth sydd ar gael a chyfeirio dysgwyr yn ôl yr angen.
  • Rhoi terfyn ar y stigma Mae dysgwyr yn aml yn teimlo bod stigma ynghylch gwneud cais am LCA neu FCF sy’n rhwystr i fynediad. Mae rhai colegau wedi dod o hyd i ffyrdd creadigol o fynd i’r afael â hyn fel menter Cadw’n Gynnes Dal ati i Ddysgu yn cael ei hailenwi’n Noson Bitsa a Ffilm, gan apelio at ddysgwyr y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Yn yr un modd, brandiodd coleg arall eu bagiau urddas mislif fel nwyddau am ddim i annog mwy o ferched i'w derbyn, yn hytrach na chael eu dewis oherwydd eu bod yn cael cymorth gan yr FCF. Mae nifer o golegau wedi ehangu lle mae dysgwyr yn gallu defnyddio credyd prydau ysgol am ddim gan sicrhau nad oes angen eu gwahanu oddi wrth ffrindiau trwy allu prynu bwyd yn y ffreutur yn unig.

Mae CoelgauCymru yn credu bod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf, wedi’i chyflwyno mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy’n cefnogi’r gymuned ehangach, cyflogwyr a’r economi. Mae colegau wedi ymrwymo i gefnogi lles teuluoedd a gwneud yn siŵr bod popeth a wnânt yn cyflawni ar gyfer pob dysgwr, yn enwedig y plant, y bobl ifanc a’r oedolion hynny mewn tlodi, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant fwynhau eu hawliau a chael canlyniadau gwell. Rhaid inni sicrhau bod pob dysgwr (a darpar ddysgwyr) yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a’r gwasanaethau sy’n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi ac yn herio stigma tlodi.

Gwybodaeth Bellach

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.